Graeanfryn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:49, 15 Hydref 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Graeanfryn oedd enw gwreiddiol y casgliad bach o dai a dyfodd o gwmpas Gorsaf reilffordd Pwllheli Road (a ailenwyd yn "Llanwnda" ymhen ysbaid). Am fanylion llawn am y pentref a'i dwf, gweler yr erthygl ar Lanwnda.[1]

Mae Graeanfryn hefyd yn enw ar dŷ Fictoraidd yn sefyll mewn 3 acer o erddi sydd gerllaw, ac nid yw'n hollol sicr pa un a enwyd gyntaf, y tŷ ynteu'r dreflan. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1840, mae'n debyg, er bod y Map Degwm yn dangos adeilad lle saif y tŷ, ni nodir mai Graeanfryn oedd enw yr adeilad na'r cae. Dangosir (ac enwir) Maengwyn, sy'n sefyll gyferbyn â Graeanfryn yr ochr arall i'r ffordd fawr ar y Map Degwm, gan nodi mai perthyn i Maengwyn yr oedd y cae lle saif Graeanfryn heddiw. Yn nogfennau'r Cyfrifiad, 1841, fodd bynnag, ni enwir Maenmgwyn, ond yn hytrach Graeanfryn, lle trigai Evan Richards, gweinidog,[2]

Bu'r y'n gartref i Simon Hobley, ac yn ddiweddarach i Robert Gwyneddon Davies a'i wraig Grace.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. John Jones (Pwllheli), Cofiant John Jones, Brynrodyn (Caernarfon, 1903), t.57
  2. Map degwm plwyf Llanwnda, 1843; Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841