Graeanfryn
Graeanfryn oedd enw gwreiddiol y casgliad bach o dai a dyfodd o gwmpas Gorsaf reilffordd Pwllheli Road (a ailenwyd yn "Llanwnda" ymhen ysbaid). Am fanylion llawn am y pentref a'i dwf, gweler yr erthygl ar Lanwnda.[1]
Mae Graeanfryn hefyd yn enw ar dŷ Fictoraidd yn sefyll mewn 3 acer o erddi sydd gerllaw, ac nid yw'n hollol sicr pa un a enwyd gyntaf, y tŷ ynteu'r dreflan. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1840, mae'n debyg, ae bod y Map Degwm yn dangos adeilad lle saif y tŷ, ni nodir mai Graeanfryn oedd na'r adeilad na'r cae. Dangosir (ac enwir) Maengwyn, sy'n sefyll gyferbyn â Graeanfryn yr ochr arall i'r ffordd fawr ar y Map Degwm, ac yn nodi mai perthyn i Maengwyn yr oedd safle Graeanfryn. Yn nogfennau'r Cyfrifiad, 1841, fodd bynnag, ni enwir Maenmgwyn, ond yn hytrach Graeanfryn, lle trigai Evan Richards, gweinidog,[2]
Bu'r y'n gartref i Simon Hobley, ac yn ddiweddarach i Robert Gwyneddon Davies a'i wraig Grace.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma