Tafarn y Mount Pleasant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:45, 15 Hydref 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd hen dafarn y Mount Pleasant yn sefyll ar ochr y ffordd fawr ar gornel y ffordd sy'n rhedeg o'r briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli i gyfeiriad Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda. Roedd yn cael ei redeg fel rhan o fferm o'r un enw, a oedd yn eiddo i Ystad y Faenol adeg y Map Degwm, 1840. Hen enw'r Mount Pleasant ar lafar gwlad oedd y "Ring" - enw cyffredin ar dafarnau. Llurguniad o "Yr Inn" yw'r enw ""Ring". Mae'n debyg i'r dafarn gael ei defnyddio'n fynych fel canolfan i'r plwyf: er enghraifft, trefnwyd cyfarfodydd i gasglu'r arian degwm yno ym 1843.[1]. Mae'r lloc, neu gae pori bychan i anifeiliaid, gyferbyn â'r hen adeilad yn dal i dystio i'w hen hanes, gan fod hynny'n nodwedd i lawer i hen dafarn ochr lôn ar adeg pan oedd teithio'n araf a cheffylau a theithwyr angen lluniaeth. Ar y Map Degwm (1840), dangosir fod nifer o gaeau'n perthyn i'r lle, yn cynnwys yr un ar draws y ffordd i'r hen dafarn, a'r cae lle codwyd yr adeilad newydd ymhen amser.

Codwyd tafarn newydd gerllaw, sef Tafarn y Blue Lion a stopiwyd cadw tafarn yn adeilad y Mount Pleasant, a ddefnyddid bellach fel ffermdy yn unig nes ei droi'n ficerdyu. Roedd yn adeilad newydd yn un hynod; y tu mewn yn y bar roedd ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi'r argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn rywbryd ar ôl 1840[2]. Arferid yr enw Blue Lion ar gyfer yr adeilad newydd nes i'r ficerdy symud i hen adeilad Mount Pleasant, pan drosglwyddwyd yr enw i'r Blue Lion yn ôl pob tebyg. Yn sicr, roedd y Blue Lion wedi ei hail-enwi tua'r adeg y digwyddodd hynny.[3]

Yr oedd ffermwr y Mount Pleasant a thafarnwr y Blue Lion, dyn o'r enw William Williams, yn cadw'r dafarn tua 1835-c.1854[4]. Roedd am ymestyn ei fusnes trwy rentu tai eraill a'u gosod fel tai tafarn yn yr ardal.[5] Yno hefyd y cynhelid arwerthiannau anifeiliaid, mor ddiweddar â 1914.[6]

Rhwng 1881 a 1911 os nad wedyn, tafarnwr y Mount Pleasant oedd Owen Jones, gŵr o Fodffordd a aned tua 1844. Rhannodd ei waith rhwng cadw'r dafarn a ffermio.[7]

Caewyd y Mount Pleasant fel tafarn tua'r flwyddyn 2003 ac fe'i gwerthwyd i deulu a drodd yr adeilad yn fwyty Bangali. Ail-ffurfiwyd tu mewn i'r adeilad gan y perchnogion newydd a chollwyd yr holl nodweddion hynafol. Caewyd y bwyty tua 2014, ac mae wedi ei ddymchwel. Disgwylir (2020) i'r safle gael ei ddefnyddio i godi tai.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/20308
  2. Mae'r dafarn yn cael ei dangos yn ei hen leoliad ar y Map Degwm
  3. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-1881
  4. Archifdy Caernarfon, XD2/6564
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/18129, 18354
  6. Herald Cymraeg, 31.3.1914
  7. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1881-1911