Tafarn y Blue Lion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:15, 23 Medi 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Tafarn y Blue Lion ar ochr y ffordd dyrpeg yn Llanwnda, i'r de o'r gyffordd sydd yn arwain at bentref Rhos-isaf. Fe'i codwyd, mae'n debyg, ym 1845 neu ychydig ynghynt, pan gymerodd William Williams, Mount Pleasant brydles gan Ystad Glynllifon, a hynny am 60 mlynedd, ar y Blue Lion ac ar hanner y caeau lle safai a'r holl gae rhwng yr adeilad a "Tryfan road".[1] Roedd William Williams yn fwy na thafarnwr, gan ei fod yn ffermio tua 150 acer o dir hefyd, gyda help 5 o weision ffarm. Er ei fod wedi ei restru yng Nghyfrifiad 1841 fel ceidwad tafarn, ffermwr yn unig oedd o ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ac mae'n debyg bod yr hen dafarn yn yr hen Mount Pleasaant wedi cau. Yn sicr, erbyn 1851, roedd tenant, John Brookes, dyn 54 oed o Hinkley, Swydd Gaerlŷr yn cadw adeilad newydd y Blue Lion, ynghyd â Jane ei wraig (dynes o Henllan, Sir Ddinbych), a hynny gyda help morwyn a garddwr. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, Ellis Roberts, gŵr lleol 26 oed o'r plwyf, a'i wraig Catherine, oedd yn cadw'r dafarn, a'r enw a roddwyd yn y Cyfrifiad oedd Blue Lion Arms. Ym 1871, Sais arall, James Smith, 28 oed, o Bury, Swydd Gaerhirfryn, oedd y tenant, ynghyd â'i wraig Maria, merch leol o Nantlle. Disgrifiwyd James fel "victualler and slate agent".

Newidiwyd enw'r dafarn yn ystod y 1870au; erbyn 1881 pan wnaed y Cyfrifiad, Mount Pleasant oedd enw'r dafarn - mae'n debyg oherwydd i'r hen dafarn ar draws y lôn gael ei throi'n ficerdy. Ym 1881, Owen Jones o Fodffordd, Sir Fôn oedd y tenant.[2]

Bu'r dafarn ar ei thraed tan y 2010au, pan chwalwyd yr adeilad i wneud lle i dai newydd. Am ychydig flynyddoedd cyn iddi gau'n derfynol bu'n dŷ bwyta Bengali.

Am fwy o fanylion am y Mount Pleasant, gweler yr erthygl Tafarn y Mount Pleasant.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/21083
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-1881