Tafarn y Blue Lion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:16, 22 Medi 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Tafarn y Blue Lion ar ochr y ffordd dyrpeg yn Llanwnda, i'r de o'r drofa sydd yn arwain at bentref Rhos Isaf. Fe'i codwyd, mae'n debyg, ym 1845 neu ychydig yn gynt, pan gymerodd William Williams, Mount Pleasant brydles gan Ystad Glynllifon, a hynny am 60 mlynedd, ar y Blue Lion, hanner y caeau lle safai a'r holl gae rhwng yr adeilad a'r "Tryfan road".[1] Roedd William Williams yn fwy na thafarnwr, gan ei fod yn ffermio tua 150 acer o dir hefyd, gyda help 5 o weision ffarm. Er ei fod wedi ei restru yng Nghyfrifiad 1841 fel ceidwad tafarn, ffermwr yn unig oedd o ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ac mae'n debyg bod yr hen dafarn yn yr hen Mount Pleasaant wedi cau. Yn sicr, erbyn 1851, roedd tenant, John Brookes, dyn 54 oed o Hinkley, Swydd Caerlŷr yn cadw adeilad newydd y Blue Lion, ynghyd â Jane ei wraig (dynes o Henllan, Sir Ddinbych), hynny gyda help morwyn a garddwr. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, Ellis Roberts, gŵr lleol o'r plwyf 26 oed, a'i wraig Catherine, oedd yn cadw'r dafarn, a'r enw a rhoddwyd yn y Cyfrifiad oedd Blue Lion Arms. Ym 1871, Sais arall, James Smith, 28 oed, o'r Bury, Swydd Gaerhirfryn, oedd y tenant, ynghyd â'i wraig Maria, merch leol o Nantlle. Fe ddisgrifiwyd James fel "victualler and slate agent.

Newidiwyd enw'r dafarn yn ystod y 1870au; erbyn 1881 pan wnaed y Cyfrifiad, Mount Pleasant oedd enw'r dafarn - dichon oherwydd i'r hen dafarn ar draws y lôn wedi ei droi'n ficerdy. Ym 1881, Owen Jones o Fodffordd, Sir Fôn oedd y tenant.

Arhosai'r dafarn i sefyll tan y 2010au, pan chwalwyd yr adeilad i wneud lle i dai newydd. Cyn hynny, roedd o wedi bod yn dŷ bwyta Bengali.

Am fwy o fanylion am y Mount Pleasant, gweler yr erthygl Tafarn y Mount Pleasant.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/21083