Pentre Uchaf, Y Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:16, 22 Medi 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pentre Uchaf yw'r darn o bentref Y Bontnewydd sydd o fewn hen ffiniau plwyf Llanwnda, ac yn fwy penodol y tai sydd ar ochr y lôn bost ar yr allt sydd yn codi o'r bont ei hun. Defnyddir yr enw o hyd fel enw stryd, ond mae'n hen enw sy'n mynd yn ôl i o leiaf ganol y ganrif cyn diwethaf. Tai moel oedd tai Pentre Uchaf, a chrefftwyr a mân ddynion busnes oedd yn byw yno gan fwyaf.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1861 et seq.