Black Lion, Y Bontnewydd
Ceir sôn am Black Lion mor gynnar â 1804, pan fu farw Cadwaladr Williams, "victualler" (sef darparwr bwyd a diod), The Black Lion, Bontnewydd. Mae papurau caniatáu gweinyddu ei eiddo wedi ei farwolaeth yn y Llyfrgell Genedlaethol.[1] Mae'r cyfeiriad hwn yn tueddu awgrymu mai tafarnwr o ryw fath oedd o, a'r enw'n sicr yn awgrymu mai tafarn oedd ei gartref.
Ar fap a rhestr bennu'r degwm plwyf Llanwnda, 1838, fodd bynnag, mai Black Lion yn ymddangos fel fferm o ryw 20 acer, a'r tŷ'n sefyll ar y bryn uwchben Plas-y-bont - ar (ner ger) safle tŷ modern Llamedos heddiw. Rhan o dir y fferm oedd clwt wrth dalcen y bont dros Afon Gwyrfai lle saif siop y pentref heddiw, safle addas iawn ar gyfer tafarn. Yr adeg honno, Jane Hughes oedd perchennog Black Lion, a John Parry oedd tenant yr 20 acer.[2]
Ni cheir ond ychydig o gyfeiriadau pendant at Black Lion fel tafarn, er gwaethaf yr enw awgrymog. Ym 1851, John Ellis, gŵr 42 oed a'i wraig Ellen oedd yn byw yno, ond disgrifiwyd John Ellis fel ffarmwr. Ym 1861, rhestrir Ellen Ellis fel ceidwad tafarn, a nodir bod Black Lion rhywle ymysg tai Pentre Uchaf, Y Bontnewydd. Gwraig weddw ydoedd erbyn hynny, ac roedd ei mab Henry yn ffermio 20 acer.[3]
Clywir sôn yn y papurau newydd ym 1863 bod ffrwgwd wedi digwydd ar ddiwrnod ffair y Bontnewyddrhwng dynion y pentref a dynion o dref Caernarfon, a bod dyn o'r Plas Mawr, Y Groeslon wedi ei drywanu a bod wedi marw mewn canlyniad i'r cwffio. Digwyddodd hyn y tu allan i dafarn y Black Lion yn ôl y papur.[4] Dyma felly ddau ddyddiad penodol ar gyfer y dafarn, sef 1861 ac 1863. O hynny allan, er bod yr enw'n parhau, nid oes sôn bod y Black Lion yn fyw na fferm. Ym 1871, Ellen Ellis sydd yno o hyd, ond yn cael ei disgrifio fel ffarmwraig. Ni cheir sôn am y lle yng nghyfrifiad 1881, a bu farw Ellen Ellis ym 1882.[5]