Cwm Cerwin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:57, 11 Gorffennaf 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cwm Cerwin yn gwm uchel ar lethrau Mynydd Mawr, i'r dwyrain o greigiau Craig y Bera. Nid yw'n cael ei enwi ar fapiau Ordnans.

Mae traddodiad fod troseddwyr yn cael eu dienyddio trwy gael eu rhoi mewn baril gyda hoelion wedi eu gosod o'r tu allan ynddo, cyn i'r baril gael ei wthio i lawr y llethr serth. Honnid yn Oes Fictoria mai'r Rhufeiniaid a wnâi hyn wrth ladd y Cristnogion lleol, er nad oes unrhyw dystiolaeth, mae'n debyg, i gadarnhau'r stori.[1]

Mae "cerwin" yn enw am faril gwin neu faril lle bragir cwrw.[2] Dichon mai ymdrech i esbonio'r enw yw'r chwedl.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), t.54
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950-1967), t.469