Coedlan Carl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:06, 10 Gorffennaf 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Coedlan a blannwyd ym mhentref Llanaelhaearn yn 2023-24 yw Coedlan Carl. Cafodd ei chreu fel teyrnged i'r diweddar Dr Carl Iwan Clowes, un o sylfaenwyr Antur Aelhaearn a Chanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn. Derbyniwyd grant sylweddol o £170,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i sefydlu'r Goedlan ac erbyn hyn mae tua 3,000 o goed wedi cael eu plannu yno. Mae'r goedlan y tu ôl i adeilad Antur Aelhaearn a'r Feddygfa a cheir byrddau gwybodaeth yno am y gwahanol rywogaethau a blannwyd a gellir cerdded drwy'r goedlan ar hyd llwybrau pren cadarn, sydd wedi'u codi ar byst mewn mannau lle mae'r tir yn wlyb. Agorwyd y Goedlan yn swyddogol ddechrau Mehefin 2024 gan Dorothi Clowes, gweddw Dr Clowes. Roedd ei hagor yn rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant sefydlu menter Antur Aelhaearn.