Hugh Evans (Hywel Eryri)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:30, 13 Mehefin 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwehydd oedd Hugh Evans (1767-1847) o ran ei alwedigaeth, ond cofir amdano heddiw fel bardd. Ysgrifennai o dan y ffugenw "Hywel Eryri". Fe'i ganwyd ym mhlwyf Llanfairmathafarneithaf, sir Fôn. Symudodd i Abererch, wedyn Chwilog, ac wedyn i Blas Madog ym mhlwy Clynnog Fawr, ac yn olaf i ardal Pen-y-groes. Dichon mai yn Uwchgwyrfai y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.

Bu'n cystadlu mewn eisteddfodau ynwedol ifanc; ysgrifennodd gywydd ar "Cariad" ar gyfer eisteddfod Bangor, c. 1790, ac un arall yn 1802 ar "Drylliad y llong Minerva, Ionawr 21, 1802". Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi ym mlodeugerdd "Corff y Gaingc" (1810). Bu farw ym Mhen-y-groes rywbryd ar ôl mis Mai 1840.[1]

Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri ym Metws Garmon er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".[2]

Cyfeiriadau

  1. Bob Owen yn Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.223
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883