Castell Caeronwy

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:06, 13 Mehefin 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Castell Caeronwy yn enw ar olion archeolegol sydd, yn ôl pob tebyg, yn amddiffynfa fach sydd yn dyddio o'r Oes Haearn ar y rthosdir i'r de o Llyn y Ffynhonnau ym mhen uchaf plwyf Llandwrog.

Mae Castell Caeronwy hefyd yn fferm fechan ar lethrau Mynydd Mawr. Fe grëwyd allan o'r tir comin ger olion Castell Caeronwy gan John Jones (Sion Caeronwy) tua dechrau'r 19g., wedi i hwnnw gweld fod y dreth ar ei fferm, sef Caeronwy, yn cynyddu.[1]

Ffermwr mwy diweddar Castell Caeronwy oedd C.P. Jones, oedd yn berchen ar fws tua chanol y 20g. ac a alwodd ei gwmni'n "Moduron Castell" ar ol ei fferm.[2].

Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), tt.61-2
  2. K.A. Jaggers, Buses around Bangor [http://www.jaggers-heritage.com/resources/Bangor%20Area%20Buses%20KAJ.pdf