Guto Gethin
Roedd Guto Gethin (Fl. tua 1650-60) yn saer maen a gododd nifer o adeiladau yn Nyffryn Nantlle tua chanol y 17g. Yr unig un sydd yn dal i sefytll sydd wedi ei briodfoli iddo fo yw Bod Fasarn, sef yr hen New Inn, wrth Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Dywed traddodiad mai fo oedd adeiladydd prif ran yr adeilad. Yn ôl y traddodiad fo oedd adeiladydd tai Tre Grwyn neu Tre'r Grwyn ger Sarn Wyth-dŵr sydd wedi diflannu o dan tomenydd Chwarel Dorothea ers canrif a hanner. Mae W.R. Ambrose yn honni bod y tai hyn wedi eu codi tua 1662.
Roedd hen ddywediad ym mhlwyf Clynnog Fawr am rywbeth anodd ei ryddhau, sef ei fod "mor sownd â phin Guto Gethin."[1]
Ni wyddys dim arall am Guto Gethin na'r hyn sydd yma, ond gellid amau ei fod yn grefftwr o fri ac yn gymeriad nodedig, gan fod y ddau gyfeiriad rintiedig ato'n dyddio o 1872 ac 1888, tua dwy ganrif wedi iddo farw.[2]. Dichon mai Griffith ap Gethin fyddai ei enw mewn dogfennau swyddogol, ond hyd yn hyn, ni ddaeth cyfeiriadau ato i'r fei.
Cyfeiriadau
- ↑ W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), tt.96-7
- ↑ W.R. Ambrose, loc. cit,; Hywel Tudur yn Y Genedl Gymreig, 25.4.1888, t.8