Tafarn Dywarch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:02, 24 Ebrill 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai'r Dafarn Dywarch ar un adeg mewn man diarffordd rhwng cyrion deheuol eithaf Rhosgadfan a chyrion gogleddol pellaf ardal y Cim, Carmel. Nodwyd yr enw Dafarn dowyrche ym 1779 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a Tafarn Dywyrch a geir yn Rhestr Pennu'r Degwm ym 1842. Tafarn gyntefig iawn oedd hon yn sicr i dorri syched - ac efallai lletya - y gweithwyr hynny a gyflawnai'r gwaith trwm o gludo copr o fwyngloddiau Drws-y-coed dros y mynydd i Gaernarfon. Roedd to'r dafarn wedi ei wneud o dywyrch cyn i'r diwydiant llechi ddod i fri yn yr ardal. Er mai'r ffurf tywarch a ddefnyddir yma, y ffurf luosog tyweirch/tywyrch sy'n gwneud mwyaf o synnwyr. Nid yw'n enw unigryw a cheir Dafarn-dyweirch ger Rhos-y-bol ym Môn a Dafarn Dywarch yn Aberdaron.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.232