Merbwll

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:51, 11 Ebrill 2024 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffermdy bychan unllawr ym mhlwyf Llanaelhaearn yw Merbwll. Cafodd y rhan ganol, a adeiladwyd gyda cherrig mawr, ei godi yn yr 16g os nad yn gynharach. Cafodd y lle tan, sy'n llenwi holl led y talcen uchaf, ei adeiladu'n ddiweddarach. Cafodd yr adeilad ei doi â gwellt yn wreiddiol ac yna gyda llechi bychan, trwchus yn y 18g mae'n debyg.