John Jones, Rhiwfallen
Bardd gwlad ac athro oedd John Jones, Rhiwfallen (fl.1870-1790). Mae’n debyg nad oedd o’n frodor o’r fro, er iddo dreulio nifer o flynyddoedd (mae’n weddol debyg) yn Rhiwfallen, nid nepell o Ffrwd Ysgyfarnog lle bu’n cadw ysgol. Yn Rhiwfallen magodd ef a’i wraig Ann eu teulu.
Mae W. Gilbert Williams, ei gofiannydd, yn amau, ar sail orgraff ei gerddi, ei fod yn hanu o Sir Ddinbych neu Sir Drefaldwyn; a dichon ei fod yn adnabod Twm o’r Nant. Bu’n athro yn ardal Llanddeiniolen cyn cyrraedd Llandwrog. Yno, ym 1770, cafodd ei gyhuddo o ymosod ar ddynes o’r enw Elisabeth Dafydd, gan orfod sefyll ei brawf. Serch hynny, mi briododd Ann Jones, dynes arall o’r un plwyf ym 1773. Mae ei ymddygiad gwyllt ifanc gael ei adlewyrchu yn ei gerddi cynnar bydol am fyd serch, sydd yn ymylu ar fod yn fasweddol yn ôl Gilbert Williams, ond yn nes ymlaen yn ei yrfa farddonol, bu’n cynhyrchu cerddi o natur fwy syber a chrefyddol.
Erbyn 1780 roedd o a’i wraig Ann wedi symud i blwyf Llandwrog. Yn y flwyddyn honno bedyddiwyd eu mab Hugh yn Eglwys Sant Twrog, Llandwrog, a nodir fod John yn athro ysgol. Mae ei gerddi wedi eu cadw, hyd y gwyddys, mewn dwy lawysgrif yn unig. Yn un ohonynt nododd John Jones ei fod yn byw yn “Rhywall”, sef yr ynganiad lleol am Rhiwfallen; ac yn wir, dynes o’r enw Miss Roberts o Forfa Mawr, Llandwrog, oedd y sawl a oedd wedi rhoi benthyg y llyfr o waith John Jones i Gilbert Williams tua 1905 - a chartref gwreiddiol Miss Roberts oedd Rhiwfallen. Yn y man, rhoddwyd y llyfr i’r Llyfrgell Genedlaethol lle mae hyd heddiw.
Bu i John Jones lofnodi gweithred leol ym 1788, gan nodi ynddi ei fod yn athro ysgol; ond erbyn 1789, un David Wilson oedd yr athro ysgol yn y Ffrwd. Mae hyn yn tueddu i ddangos fod John Jones wedi bod yn athro am o gwmpas 10 mlynedd yn Llandwrog, sef cyfnod hir i athro aros mewn un lle'r adeg honno.
Dyma enghreifftiau byr o waith y bardd a ddyfynnwyd gan Gilbert Williams:
Cadw dy dafod rhag siarad fo gormod, A dilyn gydwybod heb drallod na drwg; A gochel di gellwer ag afieth fo ofer, Gwag bleser, fe’i gweler drwy gilwg.
Cofia dy ddiwedd, ymro i fyw’n santedd, Ymâd â’th lygredd sydd ffiedd a ffôl; Os pechod galyni, cosb drom a ddaw iti, Ti weli na ddengi’n ddiangol.
Fel y mae ei gofiannydd yn nodi, mae tafodiaith John Jones yn dangos nad dyn o Arfon ydoedd yn wreiddiol.[1] Mae mwy o’i gerddi wedi eu hargraffu yn y cylchgrawn Cymru Mawrth 1905.[2]