Geufron
Ceir annedd o'r enw Geufron ym mhentref Dinas ym mhlwyf Llanwnda. Y Geufron yw'r enw llawn, ond collwyd y fannod ac arhosodd y treiglad meddal. Ystyrceufron yw pantle neu fron â phant neu gafn ynddi. Cyfeirir at y lle mor bell yn ôl â 1579-80 fel Tyddynygeufron. Ynddo gwelir yr enw llawn gwreiddiol a'r fannod a gollwyd. Ceir ffurfiau od a mympwyol ar yr enw yn asesiadau'r Dreth Dir, ond Geufron sydd ar Restr Pennu'r Degwm ac ar y mapiau Ordnans, a dyna'r ffurf a arferir heddiw.[1]
Cyfeiriadau
1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.166-7.