Geufron

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:57, 13 Mawrth 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ceir annedd o'r enw Geufron ym mhentref Dinas ym mhlwyf Llanwnda. Y Geufron yw'r enw llawn, ond collwyd y fannod ac arhosodd y treiglad meddal. Ystyrceufron yw pantle neu fron â phant neu gafn ynddi. Cyfeirir at y lle mor bell yn ôl â 1579-80 fel Tyddynygeufron. Ynddo gwelir yr enw llawn gwreiddiol a'r fannod a gollwyd. Ceir ffurfiau od a mympwyol ar yr enw yn asesiadau'r Dreth Dir, ond Geufron sydd ar Restr Pennu'r Degwm ac ar y mapiau Ordnans, a dyna'r ffurf a arferir heddiw.[1]

Cyfeiriadau

1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.166-7.