Cefn Badda
Roedd yr annedd hwn yn sefyll lle mae Parc Glynllifon heddiw ac fe'i nodir ar fap Robert Dawson (1816-20) a map Ordnans 1838. Cyfeirir ato fel Cefn y Badde ym 1764 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru), enw nad yw'n gwneud fawr o synnwyr. Ond ym 1767 cofnodwyd y ffurf Cae Evan ap Adda (Casgliad Porth yr Aur Additional, Prifysgol Bangor), sy'n dangos gwir ystyr yr enw. Ceir rhai amrywiadau di-synnwyr yn asesiadau'r Dreth Dir, ond Cae Evan ab adda a gafwyd yn yr asesiad am 1827 a gwelwyd y cofnod olaf at y lle ym 1862 ym mhapurau Glynllifon. Dichon iddo fod ymhlith y lliaws o dyddynnod ac anheddau a chwalwyd wrth lunio parc eang Glynllifon. Ni wyddys dim o hanes Evan ap Adda, gwaetha'r modd.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.108-09.