Cae Ciprys

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:45, 28 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Annedd yn ardal Rhos-isaf yw Cae Ciprys. Cyfeirir ato fel Kay kippris ym 1658 (Casgliad Mostyn, Prifysgol Bangor). Cae-ciprys a geir ar y map Ordnans Explorer diweddaraf. Roedd ciprys neu ciprws yn hen air Cymraeg yn golygu 'cynnen' neu 'anghydfod', ac mae'r ferf 'ymgiprys' (ymrafael) sy'n fyw heddiw yn deillio ohono. Mae'r enw'n awgrymu y bu dadlau neu anghydfod rywdro yn y gorffennol pell ynghylch perchnogaeth y tir.[1] O fewn lled ychydig gaeau i Cae Ciprys ceir lle a elwir y Gadlys a fu'n safle anheddiad Brythonaidd/Geltaidd yn ystod yr Oes Haearn a'r cyfnod Cristnogol cynnar. Tybed a yw'r ymgiprys a geir yn yr enw hwn yn cyfeirio at ryw anghydfod ynghylch perchnogaeth y tir ymysg y llwythau cynnar a drigai yn yr ardal? Ond dyfalu'n unig yw hynny.

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.63