Cae Doctor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:34, 27 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd annedd o'r enw Cae Doctor ar gyrion gogleddol pentref Llandwrog ac mae Cae Doctor Bach ymhellach i'r gogledd, yn agos at Afon Carrog, y ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda. Cyfeirir at yr enw mewn dogfen ym 1725 (Casgliad Newborough, Glynllifon), ond mae'n bosib iawn fod yr enw'n mynd yn ôl yn sylweddol bellach na hynny. Ni wyddys a yw'r enw'n cyfeirio at ddoctor yn yr ystyr o feddyg yn rhoi meddyginiaethau, neu at rywun â theitl doctor mewn diwinyddiaeth neu'r gyfraith. O ystyried agosrwydd y lle at blas Glynllifon a'i deulu dylanwadol, efallai fod y doctor yn yr enw hwn yn cyfeirio at un o ŵyr amlwg Glynllifon. Roedd gan Morus Glynn, Archddiacon Meirionnydd, a fu farw ym 1525, radd LL.D., ac felly hefyd William Glynn LL.D., Archddiacon Môn a rheithor Clynnog, a fu farw ym 1557. Roedd hwn yn fab i Robert ap Maredudd a'r Elen Bwclai o Fiwmares, a gofféir yn enw Cae Elen Bulkeley. Yn asesiad y Dreth Dir am 1779 cyfeirir at y lle'n gartrefol fel car dogdor Bach. Roedd Cae Doctor yn lle agos iawn at galon y dramodydd John Gwilym Jones. Dyma gartref ei nain ac fe'i hanfarwolwyd ganddo yn ei ysgrifau.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.66-7.