Cae Adda Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:38, 20 Chwefror 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae'r annedd hwn ar gyrion dwyreiniol pentref Y Waunfawr. Fe'i cofnodwyd fel Kay atha goz ym 1558 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Erbyn diwedd y 18g a dechrau'r 19g llurguniwyd yr enw i Gadda Goch mewn sawl ffynhonnell. Ni wyddys pwy oedd Adda Goch. Roedd yr enw Adda yn weddol gyffredin yn yr Oesoedd Canol a'r ansoddair coch yn un a ychwanegir yn aml at enw personol, hyd yn oed heddiw. Symudwyd beudy Cae Adda Goch i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan a'i ail-godi yno yn 2004.1

Cyfeiriadau

1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.56.