Ffrwd Ysgyfarnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:29, 2 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffrwd Ysgyfarnog yn afonig fechan sydd yn codi ger pentref Bethesda Bach ym mhlwyf Llandwrog ac yn rhedeg ar hyd dyffryn bas a llydan wrth ochr yr A499 ac wedyn heibio i Capel Bwlan (MC). Cafodd treflan Ffrwd neu Ffrwd Ysgyfarnog ei henwi ar ôl yr afon. Mae'r nant yn llifo ymlaen ac yn croesi'r lôn o'r A499 i bentref Llandwrog ac wedyn ychydig i'r de o fferm Bodfan cyn ymarllwys ar draws y traeth i'r de o gaer Dinas Dinlle. Nid yw'n cael ei henwi ar fapiau Ordnans, ond sonnir andani fel un o afonydd Sir Gaernarfon mewn disgrifiad o'r sir a ymddangosodd mewn papur newydd ym 1808. Yn ôl y disgrifiad yn yr erthygl honno, arferai pentref bychan sefyll ar ochr ogleddol aber Ffrwd Ysgyfarnog, nes i'r môr erydu'r tir a'r pentref yn cael ei lyncu gan y tonnau. Erbyn heddiw, nid oes aber i'w weld, gan fod y nant yn diflannu i mewn i ro'r traeth. Dichon bod awdur yr erthygl hefyd wedi camddeall chwedl Caer Arianrhod gan feddwl mai pentref go iawn ydoedd.[1]

Cyfeiriadau

  1. North Wales Gazette, 14.7.1808, t.4