Becws a Siop Glanrhyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:37, 29 Ionawr 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Becws a Siop Glanrhyd ym mhentref Llanaelhaearn gan R.L. (Robert Lewis) Jones.

Un o ardal Rhuthun oedd R.L. (fel yr adwaenid ef fel rheol) a phriododd â merch o Lithfaen, Margaret (Margiad) Owen. Sefydlodd fusnes becws yn wreiddiol yn West Kirby yng Nghilgwri (y Wirral) ar ddiwedd y Rhyfel Mawr ac mae'n debyg mai yn y parthau hynny y cyfarfu â'i ddarpar wraig, a oedd yn gweini yn Lerpwl. Yn nechrau'r 1920'au fe wnaethant symud yn ôl i gynefin Margiad gan ymgartrefu yn Llanaelhaearn lle magwyd eu pum plentyn. Tŷ bychan ger Allt Bost y pentref oedd eu cartref cyntaf - a chartref gwreiddiol becws R.L. yn Llanaelhaearn. Fodd bynnag, wrth i'r busnes gynyddu symudwyd i Glanrhyd ar fin ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon ac ymhen amser agorwyd siop y drws nesaf i'r busnes yn gwerthu nwyddau cyffredinol. Bu farw R.L. Jones ym 1953 yn ddyn cymharol ifanc ac fe'i holynwyd yn y busnes gan ei fab, Gwilym, ac aelodau eraill y teulu a fu'n gefn mawr i'w mam weddw, a fu farw ym 1980. Ar un adeg bu'n fusnes pur fawr ac roedd bri ar y siop a oedd mewn lleoliad da ar fin y ffordd fawr Roedd gan y cwmni fflyd o faniau hefyd, a fyddai'n danfon nwyddau i ffermydd yr ardaloedd cyfagos yn ogystal ag i siopau lleol.

Fe wnaeth y siop gau rai blynyddoedd yn ôl ond parhaodd y becws i weithredu gan gynhyrchu amrywiaeth o fara a theisennau. Hyd at y 1970au golosg a ddefnyddid yn y ffwrnais i gynhesu'r poptai ond newidiwyd bryd hynny i boptai trydan. Parhaodd y busnes ym meddiant tair cenhedlaeth o'r teulu ond yn 2023 cyhoeddwyd bod y perchenogion am ymddeol ac roedd yn ymddangos fel pe bai'r becws am ddod i ben. Fodd bynnag, erbyn hyn (dechrau 2024) mae menter Antur Aelhaearn wedi llwyddo i brynu'r busnes yn dilyn cais am gyllid o'r gronfa Ffyniant Bro ac mae ganddynt gynlluniau ar gyfer ei ddatblygu ymhellach ac eisoes wedi penodi staff i weithio yno. Mae'r cwmni newydd eisoes yn gweithredu a chynhyrchu bara a gaiff ei werthu mewn siopau lleol - gan gynnwys siop fechan sydd newydd agor (diwedd 2023) mewn ystafell ym Meddygfa Llanaelhaearn - dros y ffordd i'r becws.


Cyfeiriadau

Gwybodaeth bersonol

Erthygl yn Y Ffynnon, Ionawr 2024, tt.20-1.