Tramffordd Moel Tryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:21, 15 Ionawr 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ar ôl i'r inclein ar draws y comin ger Gorsaf reilffordd Bryngwyn agor (tua 1881), adeiladwyd tramffyrdd o dop yr inclein i sawl chwarel, yn cynnwys Chwarel Alexandra a Chwarel y Fron. Roedd Tramffordd Moel Tryfan yn fyrrach na'r tramffyrdd hynny, ond cyrhaeddodd Chwarel Moel Tryfan tua'r un uchder â'r lleill mewn llai o bellter trwy ddefnyddio inclein arall, gyda thrac dwbl, at y chwarel, a oedd tua 1250' uwchben lefel y môr. Roedd yna ddarn gweddol wastad ar ddechrau'r lein hon ond nid oedd ond rhyw 200 metr o hyd; wedi hynny, aeth yr inclein yr holl ffordd at y chwarel.

Nid yw'n sicr pryd caewyd yr inclein o'r chwarel er i'r chwarel ei hun barhau i ddefnyddio gwagenni tramffiordd hyd 1966.[1]

Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in SouthCaernarvonshire’’, Cyf. 1 (Oakwood, 1988), tt.206-7