Plygeiniau
Arferid cynnal gwasanaeth y Plygain yn fore iawn ar fore dydd Nadolig ar draws Cymru ddau gan mlynedd yn ôl ond diflannodd y traddodiad bron yn llwyr ar wahân i ardal gogledd Sir Drefaldwyn. Erbyn hyn, dim ond dau wasanaeth plygain a gynhelir yn Uwchgwyrfai yn flynyddol, sef:
- Plygain Eglwys Llanwnda, a gynhelir yr ail nos Sul o Ionawr ac sydd yn ail-gread diweddar o'r hen draddodiad. Fe'i sefydlwyd tua 2013 gan Arfon Gwilym a Sioned Webb, cerddorion gwerin enwog, oedd ar y pryd yn byw o fewn ffiniau'r plwyf. Mae wedi bod yn mynd o nerth i nerth, er gwaethaf bwlch yn ystod pandemig Cofid, ac yn 2024 gwelwyd tri pharti, un deuawd a thri unawdydd yn mynd ymlaen i ganu.[1]
- Plygain Eglwys Llanllyfni, a gynhelir am 7 ar fore dydd Nadolig, ac sydd â chryn hanes iddo, yn mynd yn ôl o leiaf 200 mlynedd. Yn 2017, roedd yn un o ddim ond tri gwasanaeth Plygain ar draws Cymru a gynhaliwyd ar fore Nadolig yn unol â'r hen draddodiad - sef Llanllyfni, Lloc yn Sir y Fflint a'r Hen Gapel, Pontrobert, Maldwyn.[2]
Darllen pellach
Am fwy o wybodaeth cyffredinol am y Plygain, gweler https://cy.wikipedia.org/wiki/Y_plygain.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma