Carreg Gristnogol Gynnar - Capel Uchaf Clynnog
Ar ochr y ffordd rhwng safle Capel Uchaf Clynnog a'r Tai Cyngor ceir carreg gyda chroes o fewn cylch wedi ei hysgythru arni (cyfeirnod grid OS SH430498). Er ei bod wedi treulio tipyn erbyn hyn mae'r groes a'r cylch yn dal yn amlwg iawn. Erbyn hyn mae'r garreg wedi cael ei gosod ar ei hochr o fewn wal derfyn weddol ddiweddar sydd rhwng y ffordd a'r cae. Fodd bynnag, mae'n debygol fod y garreg sylweddol hon, sydd oddeutu 0.9m o hyd a 0.4m o led, yn sefyll yn wreiddiol ar ei phen, gyda'r groes yn amlwg ar ei rhan uchaf. O amgylch y groes ceir cylch fymryn yn hirgrwn yn mesur 23cm ar hyd paladr y groes a 20cm ar hyd ei breichiau.
Mae'n amhosibl pennu unrhyw ddyddiad pendant i'r garreg, ond mae'n sicr yn perthyn i'r cyfnod Cristnogol cynnar (efallai rhwng y 7fed a'r 9fed ganrif). Mae cerrig o'r math hyn yn weddol gyffredin yng Nghymru, ac yn aml fe'u ceid ar hyd llwybrau neu ffyrdd a gerddid gan bererinion i fannau megis Ynys Enlli a Thŷ Ddewi. Mae'n ddigon posibl fod y garreg hon wedi bod yn sefyll am ganrifoedd ar ochr y ffordd hon a oedd yn arwain drwy'r bwlch o Eifionydd i lawr am Glynnog Fawr, a oedd yn fan bwysig ar lwybr y pererinion i Enlli. Mae carreg gyffelyb i'w chael wedi ei gosod o fewn y mur sydd o amgylch mynwent eglwys Llanaelhaearn ac ar un cyfnod yn lled ddiweddar dywedid bod pedair ohonynt i'w gweld ar fin y ffordd rhwng eglwysi Pistyll a Nefyn. Gelwid y cylch sydd o amgylch y croesau ar y cerrig hyn yn 'fesur y dorth' ac roedd yn arferiad i bobi torthau a oedd yn ffitio o fewn y cylch i'w rhoi i bererinion ar eu taith. Byddai nifer o fannau cydnabyddedig ar bob llwybr a fyddai'n cynnig bwyd a lloches i bererinion.