Llys y Cwmwd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:16, 27 Tachwedd 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ychydig a wyddom am Lys Cwmwd Uwchgwyrfai, ond mae’n debyg ei fod yn weithredol fel llysoedd cymydau eraill ar draws Cymru rhwng, efallai, 1100 a 1536.

Yn ystod cyfnod cynnar Oes y Tywysogion, rhannwyd Cymru’n gantrefi megis Arfon neu Eifionydd. Roedd y rhaniadau hyn yn cynrychioli tiroedd y llwythi gwahanol ymysg y Cymry, ac yn unedau ar gyfer llywodraethu a gweinyddu’r gyfraith. Fodd bynnag, erbyn cyfnod diweddarach (efallai o’r 11g. ymlaen) roedd y boblogaeth yn tyfu a datblygodd israniadau o’r cantrefi, a alwyd yn gymydau, gan fod y cantref bellach yn uned rhy fawr. Roedd Uwchgwyrfai’n un o’r unedau hyn yng Nghantref Arfon.

Roedd yna swyddogion a alwyd yn rhingylliaid ym mhob cwmwd. Y rhain oedd y prif weinyddwyr ar ran yr arglwydd, yn gyfrifol am gasglu trethi a hefyd yn cynnal llysoedd ar gyfer materion troseddol ac yn sicrhau cyfiawnder mewn materion megis dyled a hawliau tir. Disgwylid i holl ddynion rhydd y cwmwd, neu o leiaf i uchelwyr y cwmwd, fynychu llys y cwmwd. Yn ystod cyfnod y Tywysogion, ceid barnwr a oedd yn hyddysg yn y gyfraith yn dyfarnu, y rhingyll yn trefnu’r llys a chadw cofnodion, a chynghawsiaid, sef cynrychiolwyr neu ladmeryddion oedd yn cynorthwyo’r ddwy ochr mewn anghydfod.

Er i frenin Lloegr oresgyn Gogledd Cymru a gosod i lawr (yn Statud Rhuddlan, 1284) y trefniadau newydd a fyddai’n dod â’r gyfraith yng Nghymru yn nes at yr hyn ydoedd yn Lloegr ar y pryd, nodwyd yn benodol nad oedd y drefn o weinyddu cyfiawnder mewn achosion sifil a’r arferion cysylltiedig yn cael ei newid. Golygai hyn bod llysoedd sifil y cwmwd yn parhau’n ddigyfnewid i bob pwrpas, er bod ymgais weithiau i ddefnyddio’r gair “hwndrwd” i gydymffurfio â’r cysyniad o ardal weinyddol llai na sir a fodolai yn Lloegr. Yn yr un modd, tueddai’r rhingyll i gael ei alw’n feili a’r siryf yn cymryd lle’r barnwr. Yn rhyfeddol felly, parhau ac esblygu’n araf wnaeth trefn llysoedd Cymru hyd at y Deddfau Uno 1536 a 1542, pan benodwyd ynadon heddwch am y tro cyntaf i ddelio gyda prif faterion troseddol a gweinyddol, a hynny ar draws y sir. Roedd ynadon heddwch wedi cael eu penodi yn Lloegr o 1351 ymlaen, ond ni fu’r ddeddf honno (Deddf Ynadon Heddwch 1351 – sydd, gyda llaw, yn dal mewn grym) yn cael ei pherthnasu i Gymru tan 1542.

Gan fod llawer o gofnodion llysoedd y cymydau wedi diflannu, ni ellir bod yn sicr am fanylion y cyrff hyn. Serch hynny, ceir digon o gyfeiriadau atynt i wybod eu bod yn weithredol. Er enghraifft, talodd rhywun o Glynnog wyth swllt am yr hawl i roi trwyddedau i bobl yr ardal fragu cwrw, a hynny ym 1321.[1] Ar ôl 1542, cymerodd yr ynadon drosodd fel barnwyr mewn achosion troseddol, a phenodwyd siryf sirol a beili i bob cwmwd i ddelio efo materion casglu trethi a gweinyddu’r llys sirol a llysoedd yr hwndrwd neu gwmwd, lle clywid achosion sifil am ddyled ac ati.

Ysywaeth, mae holl gofnodion llysoedd y siryf wedi diflannu ond mae’n sicr bod y siryf yn dal i gynnal llys yr hwndrwd (sef llys cwmwd Uwchgwyrfai) gan fod cofnod i’r siryf ar y pryd gynnal ei lys hwndrwd yn nhafarn Betws Gwernrhiw ar ddechrau 1654. Ceir digon o dystiolaeth o Sir Fôn fod y llysoedd hyn yn cael eu cynnal yn gyson yn ystod y 17g, ac mae’n debyg fod yr un peth yn wir am Uwchgwyrfai.

Cafwyd math arall o lys yn Uwchgwyrfai yn ôl pob tebyg, a hynny yn sgil y Deddfau Uno 1536 a 1542. Roedd llawer o fân faterion ynglŷn â daliadaeth tir a materion megis tresbas wedi cael eu trafod mewn llysoedd maenorol yn Lloegr ers y Canol Oesoedd a chan fod y drefn yng Nghymru’n gorfod cydymffurfio â’r hyn ydoedd yn Lloegr, rhaid oedd cynnal llysoedd maenorol. Yr unig broblem oedd nad oedd y cysyniad o faenor (sef tir a reolid gan arglwydd y faenor) yn bodoli yng Nghymru cyn 1284 ac ar ôl hynny, dim ond y trefi caeth a oedd yn gysylltiedig â phalasau’r tywysogion a’r sefydliadau crefyddol a gafodd eu hystyried fel maenorau – megis Maenol Bangor (tir Esgobaeth Bangor) neu Abergwyngregyn. Nid oedd tir cyffelyb yn Uwchgwyrfai ac felly rhaid oedd creu maenor “ffug” at ddibenion y drefn newydd. Penodwyd stiward ar gyfer Maenor Uwchgwyrfai ac mae’n bur sicr bod y stiward yn cynnal llysoedd maenorol i drafod materion sifil ynglŷn â’r tir comin ac ati yn gyson.[2]

Cyfeiriadau

  1. W.H. Waters, The Making of Caernarvonshire (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.4, 1942-3), t.11
  2. W. Ogwen Williams, Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records (Caernarfon, 1956), tt.xliv-liii