Treddafydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:19, 18 Tachwedd 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Treddafydd yn rhes o dai teras ym mhentref Pen-y-groes. Am flynyddoedd y rhain oedd y tai cyntaf y pentref y byddai teithiwr yn eu cyrraedd wrth deithio o Gaernarfon i Dremadog. Fe'u codwyd gan Robert Williams - y credir mai teiliwr ydoedd o ran ei alwedigaeth - a hynny ym 1836.[1] Telid £10 y flwyddyn am rent y tir nes i Ystad Bryncir werthu'r brydles rywbryd rhwng 1891 a 1898.[2] Mae'n debyg mai Treddafydd yw un o'r enghreifftiau cynharaf yng Ngwynedd o dai a godwyd ar gyfer gweithwyr diwydiannol, a hynny ar ffurf tai teras.

Cyfeiriadau

  1. Owen Owen, Cartrefle, Tan'rallt, Hen Atgofion am Ben-y-groes
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 30.10.1891, t.8; Y Clorianydd, 6.10.1898, t.3