Treddafydd
Mae Treddafydd yn rhes o dai teras ym mhentref Pen-y-groes. Am flynyddoedd dyma oedd y tai cyntaf y pentref i deithiwr gyrraedd wrth deithio o Gaernarfon i Dremadog. Fe'u codwyd gan Robert Williams - y credir mai teiliwr ydoedd o ran ei alwedigaeth - a hynny ym 1836.[1] Telid £10 y flwyddyn am rent y tir nes i Ystad Bryncir werthu'r brydles rywbryd rhwng 1891a 1898.[2]