Tafarn y Pembroke Arms
Tafarn ar brif stryd Pen-y-groes oedd y Pembroke Arms, a godwyd ar dir yn perthyn i Ystad Bryncir, a hynny, mae'n debyg, tua 1867-8. Safai gyferbyn â thafarn y Stag.
Ceir sawl hanes am y dafarn, y rhan fwyaf ohonynt yn tueddu i awgrymu mai un o dafarnau llai trefnus yr ardal ydoedd. Er enghraifft, roedd y trwyddedai ar y pryd, Jane Evans, yn cael ei dirwyo am werthu diod nad oedd yn fesur llawn ym 1873.[1] Bum mlynedd yn ddiweddarach, bu goryfed yna arwain at un o'r meddwyn oedd yno yn cael ei drywanu gan un arall oedd ymhell yn ei ddiod.[2] Ym 1880, cyhuddwyd y perchennog, Robert Thomas, o ganiatáu meddwdod yn y dafarn, er na chafodd ei ddirwyo.[3] Ni ellir bod yn siŵr o ba mor brysur oedd y dafarn. Yn ôl Cyfrifiad 1881, roedd Robert Thomas nid yn unig yn cadw tafarn y Pembroke ond hefyd yn gweithio fel chwarelwr trwy'r dydd - tybed a oedd yn rhy flinediog i gadw trefn bob amser?[4]
Ym 1891, prynwyd y dafarn oddi wrth Ystad Bryncir yn arwerthiant mawr yr ystad honno a hynny gan ŵr o Bwllheli, Solomon Jones; y pris oedd £250. Aeth Solomon Jones ati i geisio sicrhau tenant newydd, ond (mae'n ymddangos) heb lwyddiant, gan nad oedd y dafarn wedi bod ar agor ers sawl mis pan geisiodd adnewyddu'r drwydded. Roedd blaid Dirwest ar ei chryfaf a gwrthwynebodd eu twrnai ail-drwyddedu'r dafarn pan ystyriodd yr ynadon yr achos. Derbyniodd y llys y ddadl nad oedd hi wedi bod yn agored ers amser ac felly nad oedd mo'i hangen. Dyna oedd diwedd yr adeilad fel tafarn, ac fe'i trowyd yn dŷ.[5]