Arwerthiant Ffermydd Elusen Dr William Lewis
Ddydd Gwener 3 Rhagfyr 1920 am 2.30pm yn yr Assembly Room, Stryd y Farchnad, Caernarfon, cynhaliwyd arwerthiant nifer o ffermydd a thiroedd ym mhlwyf Llanaelhaearn yn unol â chyfarwyddiadau Ymddiriedolwyr Elusen Dr William Lewis. Yn gweithredu ar ran yr elusen fel Asiant roedd Mr J. Roberts Williams, 14 Stryd y Farchnad, Caernarfon a'r Cyfreithiwr oedd Mr John Williams, 5 Stryd y Farchnad. Yr Arthwerthwyr oedd W.M. Dew a'i Fab ac R. Arthur Jones, a oedd â swyddfeydd yn Caxton Buildings, Bangor, a hefyd yng Nghonwy.
Yn y catalog a argraffwyd ar gyfer yr arwerthiant disgrifir yr eiddo fel "Valuable Freehold Farms and Accommodation Lands". Roedd cyfanswm y tiroedd a oedd i'w gwerthu oddeutu 420 o erwau.
Y fferm gyntaf i ddod o dan y morthwyl (Lot 1) oedd Terfyndaublwyf. Fel yr awgryma ei henw mae'n sefyll ar y terfyn rhwng plwyfi Llanaelhaearn a Chlynnog, a bu achos Methodistaidd cynnar yn cyfarfod yno ddechrau'r 19g cyn agor Capel Seion (MC), Gurn Goch. Nodir fod y fferm ym 1920 ychydig dros 37 erw, gyda'r tir o boptu'r briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Y tenant bryd hynny oedd Thomas Owen a thalai rent blynyddol o £25 16s 8c, degwm o £2 6s 8c (daeth y degwm i ben yn fuan wedyn pan ddatgysylltwyd yr Eglwys Wladol yng Nghymru oddi wrth y wladwriaeth a sefydlu'r Eglwys yng Nghymru) a threth tir o 8s 4c. Nodwyd gan rywun mewn pensel ar y copi sydd gen i o'r catalog iddi gael ei gwerthu am £1,080 ond ni nodwyd enw'r prynwr gwaetha'r modd.
Nesaf ar y rhestr (Lot 2) oedd fferm Tan-y-graig, sy'n llechu yng nghysgod y [Mynydd Tan-y-graig|mynydd]] o'r un enw. Roedd y fferm hon yn 17 erw a'r tenant ym 1920 oedd Humphrey Roberts a dalai £9 1s 6c o rent, degwm o 11s 6c a threth tir o 3s. Nodir fod y tir yn cynnwys cymysgedd o dir âr a thir pori, yn ogystal â thiroedd amgaeëdig ar y llechweddau uwchlaw'r fferm ar gyfer pori defaid. Nodir hefyd fod gan berchnogion a deiliaid fferm Tyddyn Coch gerllaw yr hawl i fynd â defaid drwy fferm Tan-y-graig i'w tiroedd pori hwythau ar y llechweddau. Gwerthwyd Tan-y-graig am £600 gyda'r tenant yn ei phrynu.
Tyddyn Coch ei hun a werthwyd nesaf (Lot 3). Mae'r fferm hon ar gyrion pentref Trefor gyda llawer o'i thir ar hyd ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon. Yn ôl y catalog roedd fymryn dros 62 erw ym 1920, gyda'r caeau yn gymysgedd o dir âr a thir pori "of fair quality", gyda 30 erw arall o dir pori garw. Y tenant adeg yr arwerthiant oedd Owen Pierce a dalai rent o £36 3s 8c, degwm o £2 9s 8c a threth tir o 11s. Gwerthwyd y fferm am £1,100 a hynny fel y nodir yn fy nghatalog i'r "Colonel" - tybiaf mai'r Cyrnol Darbishire oedd hwnnw.
Yna gwerthwyd Lot 4, a ddisgrifir fel "The Valuable Accommodation Grazing Land known as Tyddyn-y-felin otherwise Bryn Gwenith Land". Roedd y tir hwn bron yn 19 erw ac wedi'i leoli rhwng pentref Trefor a Fferm Y Morfa, gyda hawl tramwy i'r fferm honno drwyddo. Gan fod y tir ar gyrion y pentref nodir fod un neu ddau o "Plots ripe for development as Building Sites" arno, ac fe adeiladwyd pedwar tŷ unllawr, a adwaenir fel Tai Bryn Gwenith, yno'n ddiweddarach. Yr enw gwreiddiol oedd Tyddyn-y-felin - ar un adeg roedd melin ddŵr gerllaw yng Nghors y Felin ar lan Afon Tâl ond nid yw ei safle'n hysbys bellach. Wedyn y daeth yr enw crandiach Bryn Gwenith, er nad oes tystiolaeth fod gwenith yn cael ei dyfu yno. Y cyd-denantiaid ym 1920 oedd Owen Owen ac Owen R. Evans - hen daid awdur y llith yma. Roeddent yn talu rhent o £31 14 4c, degwm o £1 14s 4c a threth tir o 9s 10c. Nid oedd ffermdy ar y tir, ond roedd yno "an excellent Cow House and Slaughter House the latter erected by the tenant". Owen Evans a adeiladodd y lladd-dy gan ei fod yn gweithredu fel cigydd yn Nhrefor - mae'r lladd-dy hwn a'r beudy yn sefyll o hyd. Gwerthwyd y tir am y pris sylweddol o £1575 ac er na nodir hynny ar y catalog, fe'i prynwyd gan berchnogion Chwarel yr Eifl, a oedd hefyd yn berchnogion y rhan fwyaf o'r tai yn Nhrefor bryd hynny. Bu ym meddiant cwmni'r chwarel nes ei brynu gan ŵyr i Owen Evans flynyddoedd yn ddiweddarach.
Symudodd yr ocsiwn o Drefor i Lanaelhaearn ar gyfer y gwerthiant nesaf (Lot 5), sef fferm Tynllan, a oedd, fel yr awgryma'r enw, yn gysylltiedig ag Eglwys Aelhaearn gerllaw. Roedd y fferm yn 36 erw gyda'r tir o ansawdd da ac wedi ei rannu'n gaeau trefnus o dir âr a thir pori, gyda'r mwyafrif ohonynt â mynediad uniongyrchol i'r ffordd fawr. Tenant y fferm bryd hynny oedd rheithor y plwyf, y Parchedig Thomas Jones, a thalai rent o £37 9s 8c, degwm o £3 9s 8c a threth tir o 11s 8c. Roedd y tir hwn wedi cael ei amaethu gan reithoriaid y plwyf am genedlaethau, a nodir bod y tir ym 1920 yn cael ei is-osod yn hytrach na'i ffermio gan y rheithor ei hun. Nodir fod y ffermdy "of a superior type" yn cynnwys tair ystafell eistedd, cegin, pantri a phedair llofft. Roedd wedi ei gysylltu â chyflenwad dŵr hefyd. Ar y tir roedd dau fwthyn, sef Dafarn Newydd a Beudy Lôn, a oedd wedi'u cynnwys yn y gwerthiant. Hon oedd y fferm ddrutaf i'w gwerthu y diwrnod hwnnw, gyda'r rheithor ei hun yn ei phrynu am £2,125.
Lot 6 ddaeth nesaf, sef fferm Ynys Goch, sydd ar y ffordd wledig o Lanaelhaearn i gyfeiriad Sardis, Llangybi a rhannau uchaf plwyf Clynnog. Fe'i disgrifir yn y catalog fel "a good grazing farm" ac roedd fymryn dros 86 erw. Y tenant ar y pryd oedd Robert Roberts a dalai rent o £59 8s 10c, degwm o £3 8s 10c a threth tir o £1 2s 11g. Nodir bod y ffermdy mewn cyflwr gweddol dda a bod yno nifer o adeiladau amaethyddol. Roedd y tir yn cynnwys nifer o gaeau a oedd yn gymysgedd o dir âr a thir pori, yn ogystal â thir pori i ddefaid ar y llethrau uwchben. Roedd yna felin ddŵr ar gyfer malu blawd ar y fferm hefyd. Nodir yn ogystal fod gan ddeiliaid Ynys Goch hawl i bori 60 o ddefaid ar Fynydd Cwm Ceiliog. Prynwyd y fferm gan y tenant am £1,150.
Y fferm nesaf i'w gwerthu (Lot 7) oedd Cwm Ceiliog (a elwir hefyd yn Cwm Cilio), sef y fferm agosaf at Ynys Goch. Disgrifir hon fel "the well-known sheep farm of Cwm Ceiliog" a hon oedd y fferm fwyaf o ran maint yn yr arwerthiant. Roedd bron yn 142 erw, a ddisgrifir fel tir pori uwchdir yn bennaf, gyda rhai caeau âr a phori ger y ffermdy. Yn ogystal nodir fod gan y deiliad hawl i bori 100 o ddefaid ar y mynydd uwchlaw'r fferm a hefyd fod yna lwybrau cyhoeddus yn croesi'r tir. Nodir fod y ffermdy'n un sylweddol gyda phum llofft ac roedd yno nifer helaeth o adeiladau amaethyddol mewn cyflwr da. Y tenant ar y pryd oedd William Rowlands, a dalai rent o £81 5s 4c, degwm o £5 2s 4c a threth tir o £1 8s 6c. Y teulu Rowlands sy'n parhau i ffermio Cwm Ceiliog (2023). Gwerthwyd Cwm Ceiliog y diwrnod hwnnw am £1,500. Ni nodir yn fy nghatalog pwy oedd y prynwr ond mae'n bosibl mai'r Bwrdd neu Wasanaeth Dŵr a fodolai bryd hynny a'i prynodd, gan y datblygwyd cronfa ddŵr yno ar gyfer tref Pwllheli. Disodlwyd y gronfa hon i raddau helaeth yn ddiweddarach gan Lyn Cwmystradllyn, ond mae'r gronfa yno o hyd i'w defnyddio fel darpariaeth wrth gefn pe bai angen. Yn ddiweddarach prynwyd y fferm oddi ar y Bwrdd Dŵr gan y diweddar Morris Rowlands (sef taid y sawl sy'n ffermio yno ar hyn o bryd).
Y lle olaf i'w werthu (Lot 8) oedd tyddyn o'r enw Cefn Bronmiod, sy'n agos at Cwm Ceiliog ac Ynys Goch. Roedd ychydig dros 18 erw a'r tir wedi ei rannu'n nifer o gaeau âr a phori bychain o gwmpas y tŷ - a oedd yn fychan gyda pharlwr, cegin, pantri a dwy lofft. Roedd gan Cefn Bronmiod hefyd yr hawl i bori 20 o ddefaid ar Fynydd Cwm Ceiliog. Hon oedd yr unig fferm yn yr ocsiwn lle mai dynes oedd y tenant - sef un Mrs Ann Jones (gwraig weddw mae'n debygol). Roedd yn talu rhent o £20 15s 0c, degwm o £1 5s 0c a threth tir o 7s 1g. Nodir i'r tyddyn gael ei werthu am £500 ac efallai mai R.O. Roberts oedd y prynwr (ysgrifen yn aneglur ar y catalog).
Ymysg yr Amodau Gwerthu (Conditions of Sale) a geir ar ddiwedd y catalog nodir bod yr eiddo a werthir yn rhan o waddol yr Elusen a elwir neu a adwaenir fel y "Dr William Lewis' Charity", a sefydlwyd o ganlyniad i Ewyllys a ddyddiwyd 25 Awst 1681 a bod yr arwerthiant yn cael ei gynnal gyda chydsyniad a than awdurdod y Comisiynwyr Elusennau dros Loegr a Chymru. Nodir ymhellach bod y Gwerthwyr yn gwerthu fel Ymddiriedolwyr yr Elusen a benodwyd o dan ddarpariaethau'r Ewyllys dan sylw. Amod arall a nodir yw bod rhaid cwblhau pob pryniant erbyn 11 Chwefror 1921 ac roedd pob prynwr i dalu'r swm o un gini (£1 1s) yn achos pryniannau o dan £500 a dwy gini (£2 2s) yn achos pryniannau dros £500 i gyfreithiwr y gwerthwr (sef John Williams, Caernarfon) fel ei gyfran ef o'r costau a gafodd wrth baratoi'r Contract.