Llythyr o Gymru
Ffilm fer a wnaed ym 1953 yn ardal Llandwrog yw ‘’’A Letter from Wales’’’.
Hanes bachgen ifanc, Rhys Ifan, y prif gymeriad oedd yn byw bywyd llawn helynt yng nghefn gwlad Cymru a geir yn y ffilm. O dipyn i beth, caiff ei berswadio gan ei fam i roi’r cyfan ar bapur mewn llythyr at ei gefnder yn Awstralia. Wedi'i sgriptio gan John Gwilym Jones a gafodd ei eni a'i fagu yn yr ardal, gyda cherddoriaeth wedi'i chyfansoddi gan y telynor Osian Ellis, mae'r ffilm yn cynnwys Sam Jones (Pennaeth y BBC ym Mangor) fel ysgolfeistr caredig. Dewiswyd Mrs Katie Wyn Jones o fferm Cefn Hengwrt a’i phedwar o blant – ynghyd â ffrind o Bodafon – i chwarae’r teulu.
Cynhyrchwyd y ffilm hon gan Brunner Lloyd a’i gwmni, cyf. ar gyfer y Children's Film Foundation ac fe’i bwriadwyd ar gyfer dangosiadau i blant mewn sinemâu ar fore Sadwrn, a gwnaed y ffilm hon gyda thrac sain Cymraeg a Saesneg. Nid yw’n hollol gyfyngedig i Landwrog: mae’n cynnwys golygfa sy’n ymwneud â bad achub Porthdinlläen. Mae’n gyfuniad hapus o blant, anifeiliaid ac oedolion sy’n llawn hwyl, y rhan fwyaf ohoni wedi’i ffilmio o gwmpas Llandwrog.
Mae modd gwylio’r ffilm am ddim ar safle’r Sefydliad Ffilm Prydeinig.[1]