Cefn Emrys
Mae Cefn Emrys yn fferm o faint sylweddol ym mhlwyfi Llandwrog a Llanwnda. Saif y ffermdy i’r gorllewin o’r ffordd sydd yn arwain o Landwrog i bentref Saron, tua hanner milltir i’r gogledd o Landwrog ei hun.
Clywir y sôn cyntaf am Thomas Williams, Cefn Emrys, mewn gweithred pan werthodd o dir yn Niwbwrch, Sir Fôn. [1] Roedd ei wraig Alice yn ferch i William Roberts, Pen y Wrach, plwyf Llanbeblig.[2] Mae’n bosibl yr oedd wedi symud i Gefn Emrys o blwyf Ceidio ym Mhen Llŷn, gan fod ei ail fab wedi ei eni yno tua 1773.[3] “Gŵr bonheddig” (gentleman) oedd y disgrifiad ohono yn y weithred honno; bu farw ym 1799 heb ewyllys, wrth i’w fab Thomas dderbyn llythyrau gweinyddu ei stad fis Ionawr 1800. Fe’i disgrifir yn y ddogfen honno fel “iwmon” (sef ffermwr o sylwedd).[4] Dichon fod gan Thomas y mab ddau frawd, Henry Williams, iwmon arall, a aeth ymlaen wedyn i ymsefydlu fel bragwr yng Nghaernarfon, lle’r oedd o’n dal wrth ei alwedigaeth mor ddiweddar â 1836[5]; a Robert Williams, iwmon a ffermiai yn Eithinog, plwyf Llanllyfni.
Diddorol yw sylwi ar honiad mewn llythyr dyddiedig 1832[6] fod teulu Cefn Emrys wastad yn cefnogi teulu Glynllifon mewn etholiadau ac ati. Mae Map a Rhestr Bennu Degwm y plwyf (1840-3) yn dangos fod y fferm yn ymestyn (y pryd hynny) o ochr Morfa Dinlle hyd at y Lôn Ganol rhwng Dôl Meredydd a Bwlan. Henry Williams oedd yn berchen ar y fferm a hwnnw hefyd oedd yn ei ffermio. Roedd y fferm yn cynnwys tua 84 o erwau'r adeg honno.[7] Dichon mai brawd yr ail Thomas oedd yr Henry hwn, sef y bragwr gynt, ac roedd yn awyddus i ymestyn y tir yr oedd yn ei ffermio trwy rentu darn o Forfa Dinlle oedd wedi ei amgáu erbyn hynny. Ysgrifennodd at Arglwydd Newborough yn gofyn am gael rhenti Parc Mawr ar y morfa. Nid oedd Newborough am renti’r Parc Mawr, ond roedd yn ddigon parod i rentu darnau eraill o’r morfa i Henry Williams.[8]
Mae Cyfrifiad 1851 yn cadarnhau maint y fferm ac yn nodi fod Henry Williams yn dal i ffermio yno, er ei fod yn 78 oed. Roedd ei wraig Jane, a hanai o blwyf Llandwrog, yn 20 mlynedd yn iau nag ef, ac roedd ganddo tri mab, Thomas, Henry a Robert (er nad oedd Henry, mae’n ymddangos, yn byw yng nghartref y teulu adeg y Cyfrifiad). Yn ogystal â’r rhai hyn, roedd Henry’n cyflogi pedwar o weision fferm. Ym 1861, roedd Henry’n dal yn fyw gyda’i wraig, yntau’n 87 ar ddiwrnod y Cyfrifiad, a’i wraig Jane yn 69. Roedd y meibion Thomas a Robert wedi gadael y cartref, Robert i ffermio mewn man arall. Roedd y mab arall, Henry, hen lanc tua 36 oed wedi symud yn ôl i’r cartref ac yn ffermio gyda’i dad. Roedd angen tri gwas arnynt i helpu gyda gwaith y fferm.
Erbyn 1871, roedd Henry’r tad a Jane wedi marw, a Henry (a aned tua 1824) oedd y mab oedd wedi cymryd drosodd. Fe’i disgrifir yn y Cyfrifiad fel “amaethwr bonheddig” neu gentleman farmer. Roedd o wedi priodi Elizabeth rywbryd ar ôl 1861, ond aeth pethau’n flêr rhyngddynt erbyn 1868. Ddiwedd Awst 1868, cyhoeddodd Henry Williams rybudd yn y papur lleol i ddweud na fyddai’n gyfrifol bellach am unrhyw wariant a wnaed gan ei wraig Elizabeth. Roedd ei frawd iau Robert wedi symud yn ôl i fyw yng Nghefn Emrys ar ôl ymddeol o’i fferm gyfagos, Bodryn, ac yntau ond yn 45 oed. Tybed aeth pethau’n flêr oherwydd ei bresenoldeb o yn y cartref, gan i Elizabeth, yn yr un papur, gyhoeddi nodyn o hunan-gyfiawnhad (a gynhyrchir yma yn y Saesneg gwreiddiol).[9] Mae hi’n nodi mai Bodryn oedd cartref Robert, a bod Robert wedi perswadio ei frawd Henry i wrthod cyfrifoldeb am ei dyledion hi. Honnai ymhellach yr oedd hi wedi talu llawer o ddyledion y teulu wrth symud i Gefn Emrys, ond er hynny yr oedd wedi dioddef creulondeb a chamdriniaeth yn ei chartref - triniaeth a symbylwyd, meddai, gan ei brawd-yng-nghyfraith, Robert. Mae awgrym pellach fod Henry wedi ei gau i mewn ym Modryn a hithau heb gael mynd ato. Roedd hi’n amau mai’r bwriad oedd ei pherswadio hi i symud allan o Gefn Emrys. Serch hyn oll, mae’n ymddangos bod merch, Jane Anne, wedi ei geni iddynt ym 1868-9. Aeth honno ymlaen i briodi Thomas Hughes o Glynnog rywbryd ar ôl 1891, pan oedd Thomas yn dal i fyw gartref ym Maes Mawr; roedd y cwpl wedi priodi ac yn byw yn nhŷ fferm Bachwen erbyn 1901, ac yn dal yno ym 1921.[10] Sonnir yn archifau Bachwen bod Thomas Hughes yn fab-yng-nghyfraith i Henry Williams. Mae’r archif pwysig hwnnw’n cynnwys dyddiaduron ffermio Cefn Emrys, 1883-1903.[11]
Erbyn 1881, roedd Robert wedi symud (neu efallai ei fod oddi cartref), a dim ond dau was a Henry oedd yn bresennol yn y tŷ fferm. Nid oedd sôn am Elizabeth y wraig ychwaith. Ym 1891, nid oedd neb yn byw yn y tŷ (neu efallai nad oedd neb gartref ar noson y Cyfrifiad).[12] Dichon fod Henry wedi marw tua 1901 pan oedd Robert, a oedd yn dal yn hen lanc, wedi dychwelyd i’r fferm ac yn ffermio yno, yntau erbyn hynny’n 73 oed.[13]
Cyfeiriadau
- ↑ LlGC, Papurau Arthur Ifor Pryce 755
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD1/834
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1851
- ↑ LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1800/76
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/17218, 18313
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/17218
- ↑ Map Degwm plwyf Llandwrog, 1849
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/18313
- ↑ Carnarvon and Denbigh Herald, 29.8.1868, t.1
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1891-1921.
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD66/passim
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1851-1901
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1851-1901