Capel y Morfa (MC), Dinas Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:58, 2 Hydref 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Capel y Morfa yn gwasanaethu cymuned amaethyddol pen pellaf Dinas Dinlle. Enw'r trigolion lleol arno oedd "Capel Bach y Morfa". Cangen ydoedd o Gapel Bwlan, unig gapel pentref Llandwrog. Fe'i codwyd ar draul Thomas Williams, Gwylfa ym 1895 gan nad oedd darpariaeth grefyddol yn yr ardal.[1] Saif yr adeilad, sydd wedi ei werthu'n bur ddiweddar (2018) a'i droi'n dŷ gwyliau, wrth Maes Carafanau Morfa Lodge, ar gornel y lôn oedd arfer arwain at Fferm y Warren. Yn ystod blynyddoedd mwy diweddar ei oes fel capel, ni chynhelid gwasanaethau ond yn ystod yr haf.[2]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), t. 185
  2. Gwybodaeth gan drigolion lleol