Ystad Mynachdy Gwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:16, 25 Medi 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ystad Mynachdy Gwyn yn eiddo i [[Teulu Meredydd, Mynachdy Gwyn|deulu'r Meredyddiaid o'r 16g. ymlaen, ar ôl i Thomas ap Gruffydd ap Jenkin brynu prydles o drefgordd Cwm gan Syr John Puleston tua chanol y ganrif honno. Parhaodd yy ystad yn eiddo i'r teulu tan 1778 yn ôl pob golwg, ac er bod rhannau ohoni o bosibl wedi eu colli fel gwaddol i rai o ferched y teulu, enillwyd ambell i eiddo yn yr un modd.

Aeres yr ystad oedd Anna Maria Meredydd, merch yr olaf o'r hen linach wryw, Meyrick Meredydd. Bu farw Anna Maria ym 1828,[1] ond hanner can mlynedd cyn hynny roedd hi wedi gollwng ei gafael ar yr ystad. Mewn gweithred yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir rhestr o'i thiroedd:

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t206