Y Bythol Wyrdd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:33, 14 Medi 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Clwb ar gyfer pob hŷn pentref Y Groeslon oedfd y Bythol Wyrdd. Fe'i sefydlwyd ym 1957 gan William J. Owen, Bryn Teg. Cyrddai'r Clwb ddwywaith y mis yn y Neuadd, a hynny yn ystod y prynhawn. Sgwrs a the pnawn oedd y prif weithgareddau, er bod tripiau wedi eu trefnu o bryd i'w gilydd, a mynd i rywle i gael cinio hefyd yn boblogaidd. Bu'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal am yn agos i hanner can mlynedd cyn dod i ben, er mai unwaith y mis y'u cynhaliwyd nhw erbyn y diwedd.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), t.100