Richard ap Robert
Roedd Richard ap Robert (a fu farw ym 1539) yn fab hynaf Robert ap Meredydd. Etifeddodd Richard ap Robert diroedd Baladeulyn neu Blas-yn-Nantlle ym 1509 ar farwolaeth ei dad. Roedd y tiroedd hyn yn hen eiddo Tywysogion Gwynedd, a roddwyd i un o gyndadau’r teulu, Tudur Goch ap Gronw neu Tudur Goch, am ei wrhydri ym mrwydrau Crécy a Phoitiers, a hynny tua 1350. Etifeddodd yr ail fab, Edmund Llwyd, Plas Glynllifon - sy'n tueddu awgrymu mai hen dir Nantlle a gyfrifid yn bwysicaf ym meddyliau'r teulu.
Gwraig Richard ap Robert oedd Catherine ferch William ap Jenkin ap Iorwerth, Ynysmaengwyn, ger Tywyn, Sir Feirionnydd. Cafodd y cwpl ddau fab, Richard ac Edmund Llwyd.[1]
Gadawodd Richard ap Robert ei ystâd i'w fab William Glynn (1520-1581). Credir mai ef a gododd dŷ presennol Plas Nantlle, a elwir heddiw yn “Dŷ Mawr”.[2] William, mae'n debyg, oedd y cyntaf o’r llinach i fabwysiadu’r cyfenw “Glynn”, tra bod ei frawd iau Thomas wedi dewis y cyfenw Prichard (ar ôl ei dad Richard ap Robert). Mae’n amlwg bod y cysylltiad â Glynllifon wedi cyfrif i’r teulu serch eu bod yn byw yn Nantlle oherwydd fe wnaeth y mab hynaf ddewis Glynn yn gyfenw. Roedd y teulu o gryn bwysigrwydd yn y gymdeithas sirol ar y pryd. Priododd William, mab William Glynn, â Catherine, merch Thomas Wynn ap William o’r Faenol, un o sgweieriaid pwysicaf y sir.