Cwrt Beddgelert

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:52, 24 Awst 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cynhaliwyd Cwrt Beddgelert ym Meddgelert bob blwyddyn lle casglwyd taliadau a oedd, yn wreiddiol, yn ddyledus i Abaty Aberconwy. Hyd at 30au'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yn ofynnol i brif drigolion trefgorddau Nancall a Chwm (trefgordd) deithio i Feddgelert yn flynyddol i dalu dirwyon (sef taliadau am rai pethau penodol). Roedd yn un o lawer o fan lysoedd a oroesodd o systemau casglu trethi a chynnal llysoedd maenorol a fodolai yn y Canol Oesoedd. Mae manylion am y cwrt i'w cael yn Y Brython:

Fel yr oeddwn mewn ymgom â hen amaethwr parchus o ben uchaf plwyf Clynnog Fawr yn Arfon; ac yntau yn henafgwr, gofynais iddo, (yn ol fy arfer i hen bobl,) a oedd dim byd nodedig mewn arfer gwlad, neu olion henafol, y gwyddai, neu a glywai am danynt yn ei ardal.  “Na wn i,” meddai yntau, “am ddim nodedig er fy nghof i, ond Cwrt Beddgelert.”  Holais ef am ei natur; a’r manylion a gefais oedd hyn :– Yr oedd y tyddynod canlynol yn ffurfio treflan y Cwrt :– Monachdy Gwyn, Cwm, Ynys yr Arch, Cae Hir, Hengwm, Llwydmor, Nancelloedd, a’r Tai Duon.  Yr oedd yn rhaid i amaethwyr y tyddynod dalu dirwy am gadw myharen (hwrdd) du, ac am bysgota yn yr afon.  Nid oedd dim treth ffordd fawr arnynt; na dim rhwymau i adgyweirio ffyrdd y plwyf, ond y rhai a oedd yn myned drwy y tyddynod a enwyd.  Yr oedd y tir-ddeiliaid hyn yn myned i Feddgelert bob dechreu haf i gadw’r Cwrt; a byddent yno am ddeuddydd neu dri.  Y mae’r Cwrt wedi peidio ers tua pedair blynedd ar hugain.[1]

Cyfeiriadau

  1. Y Brython, Tachwedd 1861, t.435