Sinema'r Plaza

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:44, 27 Gorffennaf 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Rhaglen Mehefin 1933

Safai Sinema'r Plaza ar ffordd Llanllyfni, Pen-y-groes, bron gyferbyn â thafarn y Victoria. Safle modurdy J.T. ac wedyn garej Express Motors oedd y safle wedyn. Chwalwyd yr adeiladau hynny fis Tachwedd 2020, a'r bwriad bellach yw codi canolfan iechyd yno.

Dyma oedd yr unig sinema yn y cwmwd. Fe agorodd ddydd Llun y Pasg, 17 Ebrill 1933, gyda dangosiadau o Tell Me To-night, gyda Jan Kiepura am dair noson; ac wedyn am dair noson, Anna Neagle yn The Flag Lieutenant. Broliai'r rheolwr ei "Western Electric Sound System", ac wrth gwrs rhaid oedd wrth system sain arbennig gan fod y ffilmiau a ddangoswyd oedd rhai o ffilmiau sain ("talkies") newydd y cyfnod. Yn fuan wedi iddi agor fis Tachwedd, dangoswyd y ffilm ffilm C>H>Dand, Men against Death, sef ffilm ddogfennol am chwarelwyr Chwarel Dorothea.

Defnyddiwyd y sinema ar gyfer achlysuron eraill megis cyngherddau gan eraill megis Côr Meibion Dyffryn Nantlle.[1]

Y rheolwr am holl oes y sinema oedd Gwilym Arthurs, gyda'i wraig Megan Arthurs yn gwerthu'r ticedi ac ati, a Glyn Morris, Stryd Fawr ac Emlyn Jones yn daflunwyr.

Henry Jones, adeiladydd, Cricieth gododd yr adeilad hardd yn ystod 1932-3, gyda tu blaen mewn arddull y cyfnod, a chanopi fetel dros y fynedfa. Roedd ganddi le i 600 wylio ffilmiau.Y perchennog oedd y Cadben W. Elias Pritchard, Y Maes, Cricieth. Mae llun da o'r adeilad yma: [1]

Marwodd y Cadben Pritchard ym 1945, a gwerthodd y teulu y sinema i gwmni Paramount Picture Theatres Cyf. Ym 1956, gosodwyd sgrîn Cinemascope

Ymysg y ffilmiau olaf i'w dangos oedd Charlton Heston yn Planet of the Apes. Caewyd y sinema'n llwyr 23 Tachwedd 1963. Y ffilmiau olaf i gael eu harddangos oedd That Kind of Girl and Girl in the Sun. Cafodd ei dymchwel yn weddol fuan wedyn, ar ôl tân trychinebus a ddigwyddodd yn yr adeilad, 21 Chwefror 1964, gan na ystyriwyd yr adeilad yn ddiogel.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. http://genome.ch.bbc.co.uk/39ecef9bc3d543cd8a6ae5a78e9113c4
  2. Cafwyd y rhan fwyaf o ffeithiau o gasgliad o raglenni, lluniau a nodiadau sydd wedi eu fframio ar wal Neuadd Goffa Pen-y-groes. Mae elfennau o'r hanes hefyd wedi eu cywain o wefan Cinema Treasures, http://cinematreasures.org/theaters/31675