Ystrwyth ab Ednywain
Roedd Ystrwyth ab Ednywain (c1180 - c1225) - yn ôl achresi cynnar - yn ddisgynnydd uniongyrchol i Cilmin Droed-ddu ac yn benteulu Teulu Glynllifon yn yr 13g. ar adeg y Tywysog Llywelyn Fawr.
Credir mai un o brif swyddogion y llys oedd Ystrwyth ab Ednywain (c1180 - c1225) yn llys Llywelyn Fawr, a fo, mae'n debyg, oedd sylfaenydd llinach teulu'r Glynniaid, Lleuar Fawr a Glynllifon. Cafodd ei eni yn ôl rhai ffynonellau yn Lleuar[1]. Roedd yn ddisgynnydd uniongyrchol i Cilmin Droed-ddu yn ôl achresi'r Canol Oesoedd, a'i dad yn Ednywain ap Gwrydyr ap Dyfnaint ap Iddon ap Iddig ap Lleon ap Cilmin Droed-ddu.[2] Rhaid, fodd bynnag, bwysleisio bod yr achresi hyn yn gymysgedd o ffaith, chwedl a dychymyg. Er ei fod yn ffigwr pur niwlog, roedd Distain (sef prif weinyddwr) Llywelyn Fawr yn ddyn o'r enw Gwyn ab Ednywain hyd ei farw ym 1215;[3] mae'n demtasiwn i weld hwn fel brawd i Ystrwyth, ond ceir cofnodion am Gwyn ab Ednywain yn achres Collwyn ap Tangno hefyd a dichon mai dyma'r dyn a oedd yn ddistain Llywelyn, ac nad oedd yn perthyn i Ystrwyth. Nid oes sôn am Gwyn, yn sicr, yn achres Griffith, fel un o feibion Ednywain ap Gwrydyr.[4]
Roedd ganddo (neu fe dderbyniodd) hawliau i diroedd yn nhrefgordd Dinlle a adwaenid fel Gafael Wyrion Ystrwyth maes o law, a dyna yn ôl pob tebyg sylfaen yr ystadau a grynhowyd yn yr 16g gan y teulu. (Yr oedd gor-hen-daid William Glynn, Glynllifon, sef Tudur Goch ap Grono, yn un o briodorion neu ddeiliaid tir Gafael Wyrion Ystrwyth, ym 1352).[5] Y 12-13g. oedd yr adeg pan ffurfiolwyd tiroedd teuluoedd unigol dan y tywysogion, gan ffurfio "gwelyau", sef tiroedd etifeddol; mae sôn yn y "Record of Carnarvon" am Wely Wyrion Ystrwyth yn ardal trefgordd Dinlle.[6]
Er bod peth amheuaeth gan haneswyr, mae'n bur debygol mai Ystrwyth ab Ednywain oedd y "Magister Ystrwyth" oedd yn gynghorydd a diplomat i Lywelyn Fawr.[7] Os felly, gellir ei ddyddio i gyfnod rhwng tua 1180 a 1222 o leiaf; clywir amdano'n negesydd i Lywelyn ym 1204, derbyniodd bensiwn gan y Brenin John o Loegr ym 1204, roedd yn un o offeiriaid Ellesmere ac yn derbyn bywoliaeth Salkeld yn esgobaeth Caerliwelydd ym 1209. Roedd gyda Llywelyn pan oedd hwnnw'n ymladd wrth ochr y Brenin John ym mrwydr Norham yn erbyn yr Albanwyr ym 1209. Ym 1215, pan oedd un o wystlon Llywelyn yn cael ei ryddhau, Ystrwyth aeth i'w nôl ar ran y Tywysog. Ym 1221 derbyniodd bensiwn o ddeg marc gan Frenin Lloegr. Ym 1222, roedd Ystrwyth yn un o dystion i setliad priodasol nai'r Iarll Ranulf o Gaer, Ioan y Sgotyn, a Helen, merch Llywelyn.[8]
Un broblem sy'n codi o gysylltu "Magister Ystrwyth" ac Ystrwyth ab Ednywain yw'r ffaith fod Magister Ystrwyth yn ôl pob tebyg yn offeiriad o ryw fath, ond eto mae'r achresi'n gytun fod Ystrwyth ab Ednywain yn dad i Iorwerth Goch - er nad oedd y fath beth ag offeiriad yn cael bywyd teuluol hefyd yn hollol anghyfarwydd yn y Canol Oesodd. Hefyd, rhaid cofio nad oedd Ystrwyth yn enw hollol anghyfarwydd ar y pryd - er enghraifft Ystrwyth ap Marchwystl o'r Berain, Llannefydd. Nes i ryw ffaith newydd ddod i'r golwg, fodd bynnag, dichon ei bod yn ddigon teg credu mai'r un person oedd Ystrwyth, dyn y llys ac Ystrwyth ab Ednywain, tad Iorwerth Goch.
Cyfeiriadau
- ↑ Ancestry.co.uk, [1], adalwyd 19.07.2018
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.172
- ↑ Erthygl Wicipedia ar Gwyn ab Ednywain, [2], cyrchwyd 14.4.2020
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.172, 391
- ↑ W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records, (Caernarfon, 1956), t.248.
- ↑ W. Gilbert Williams, ‘’Glyniaid Glynllifon’’ ((Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33
- ↑ Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.25-6
- ↑ J.E. Lloyd, A History of Wales, (Llundain, 1911), tt.622, 642, 656, 657, 685