John Jones Owen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:04, 29 Rhagfyr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd John Jones Owen (1876-1947) yn gerddor a aned 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn, yn fab i Hugh a Mary Owen.

Roedd yn frawd i Richard Griffith Owen, 'Pencerdd Llyfnwy'. Cafodd addysg gerddorol dda a dysgodd ganu'r organ a'r feiola. Ef oedd arweinydd côr merched Dyffryn Nantlle a gafodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1897. Penodwyd ef yn organydd capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhal-y-sarn ac olynodd ei dad fel codwr canu yno. Cyhoeddodd amryw o ddarnau cerddorol, a bu ei anthem 'Llusern yw dy air i'm traed', y ganig 'Yr Afonig' a'r darn 'Lw-li-bei' i blant yn boblogaidd.

Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1921 ac yno enillodd radd Mus.Bac. Daeth yn organydd a chôr-feistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Bu'n gwasanaethu fel beirniad cerdd ac arweinydd cymanfaoedd canu ac roedd yn arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Yno y bu farw 21 Ebrill 1947 a'i gladdu ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.[1]

Cyfeiriadau

1. Seiliwyd yr uchod ar erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950, (Llundain, 1970), t.46.