Ivor Pugh

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:31, 20 Rhagfyr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ivor Pugh (1888-1969) yn Ddarllenwr Lleyg yn Eglwys San Siôr, Trefor, o 1922 hyd 1923. Mab ydoedd i Rees Pugh (g.1861), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann ei wraig (g.1870), a hanai o Langollen. Symudai'r teulu o gwmpas pan oedd Ivor yn fach. Cafodd ei eni yn Ffestiniog. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Dreharris yn y De, cyn symud i Abergynolwyn ac wedyn ymsefydlu rywbryd cyn 1901 yn Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd.[1] Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanegryn.[2]

Erbyn i Ivor Pugh fod yn 20 oed, roedd wedi symud i'r De, gan weithio ym Merthyr Tudful fel glöwr.[3] Mae'n debyg iddo symud i Drefor i dreulio cyfnod prawf cyn mynd i'r offeiriadaeth. Tra yn Nhrefor lletyai yng nghartref William Baum yn Fern Villa, yn agos i'r eglwys.

Priododd ag Elizabeth A. Porter (g.1906) yn Garstang; merch i ffermwyr ieir oedd hi, ac ym 1939 roedd ei rhieni hi'n byw gydag Ivor ac Elizabeth yn y Ficerdy, Union Street, Clitheroe, lle roedd Ivor Pugh yn ficer.[4] Arhosai yn Clitheroe, yn ôl pob tebyg, hyd ei farwolaeth yn ystod haf 1969; yno y bu farw beth bynnag.[5]

Roedd Ivor Pugh yn frawd i'r Parchedig Morris Pugh, Ficer Clynnog (1945-50), ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd, 1901-1911
  2. Archifdy Dolgellau, Cofrestr Bedydd Llanegryn
  3. Cyfrifiad plwyf Merthyr Tudful, 1911
  4. Mynegai Priodasau 1934; Cofrestr 1939
  5. Mynegai Marwolaethau 1969