Austin Hopkinson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:05, 17 Rhagfyr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sais oedd Austin Hopkinson (1869-1962), aelod seneddol Mossley ym Manceinion am flynyddoedd lawer, ond roedd ganddo ail gartref yn Uwchgwyrfai, sef Bron Dirion, Pontlyfni. Roedd yn ddiwydiannwr a arbenigai mewn offer ar gyfer y diwydiannau mwyngloddio. Roedd Hopkinson yn aelod seneddol Annibynnol bron yn ddi-fwlch o 1918 hyd 1945. Roedd yn aros yn annibynnol, fel arfer, o unrhyw chwip plaid, er iddo dueddu i ffafrio pleidiau a symudiadau blaengar a gwrth-Dorïaidd. Ei brif ffrind gwleidyddol oedd Stanley Baldwin, er ei fod wedi bod yn gyfeillgar efo David Lloyd George cyn 1922. Bu'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn ystod y ddau ryfel byd, a hynny o'i wirfodd, ac roedd ganddo farn gref am gamgymeriadau milwrol.[1].

O ganlyniad i argyfwng diweithdra yn Nyffryn Nantlle, ac ymdrechion Pwyllgor y Di-waith Dyffryn Nantlle a ffurfiwyd ym 1956, sicrhawyd grant er mwyn codi ffatri ar gyfer Cwmni Austin Hopkinson ym Mhen-y-groes, i ymestyn gwaith gan y cwmni a oedd eisoes yn mynd rhagddo gerllaw. Dichon mai oherwydd cysylltiad personol Hopkinson â'r ardal y dewisodd y cwmni y lleoliad hwn yn y lle cyntaf. Cafodd y ffatri ei chwblhau ym 1958.[2] Dyma'r ffatri a ddaeth yn Ffatri Pikrose ym 1970.[3]

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wikipedia am Austin Hopkinson [1], cyrchwyd 16.12.2022. Mae hanes llawn gyrfa wleidyddol Hopkinson yn yr erthygl honno.
  2. Gwyn Edwards, Mudiad y Di-waith Dyffryn Nantlle, 1956-1960, Llafur, Cyf.5, 1, t.30
  3. Delyth Morris, Economic Development in Gwynedd, 1870-2001, (2005), [2], cyrchwyd 14.7.2019