Cors y Bryniau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:53, 24 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cors ar ochr ddwyreiniol Moel Tryfan yw Cors y Bryniau. Ar ôl i'r cyflenwad mawn yn y Gors Goch gael ei ddihysbyddu gyda thwf pentrefi Rhosgadfan a Rhostryfan trowyd at Gors y Bryniau am gyflenwad o fawn.[1] Parhawyd i godi mawn yno tan o leiaf ganol y 19g. pryd y daeth glo yn danwydd cyffredin, gan ddisodli mawn. Rhoddodd Cors y Bryniau ei henw hefyd ar chwarel gyfagos - Chwarel Cors-y-Bryniau. O Gors y Bryniau hefyd yw teitl casgliad cyntaf Kate Roberts o straeon byrion. Fe'i cyhoeddwyd ym 1925 i ddechrau a chafwyd sawl argraffiad dilynol.

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.85-7.