Pont Crywiau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:17, 11 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Crywiau yw'r bont droed dros Afon Llyfni ar y llwybr o ben mwyaf gorllewinol pentref Tal-y-sarn i bentref Llanllyfni heibio i Gaer Engan. Dywedir i ddynion ifanc ymgasglu yno gyda'r nos i siarad a chymdeithasu. Mae'r enw'n cyfeirio, mae'n debyg, at gryw neu grywiau yn yr afon, sef cawell i ddal pysgod ger ryd neu gored, neu'r gored ei hun - yr un enw, meddir, ag sydd yn enw'r dref Saesneg, Cryw neu "Crewe".

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma