Robert Roberts (Trebor Aled)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:09, 1 Tachwedd 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nid yw wedi dod yn amlwg eto pwy yn union oedd y Robert Roberts a arddelai'r enw barddol "Trebor Aled" yn Nyffryn Nantlle, ond gwyddys i sicrwydd nad y Parch. Robert Jones (Trebor Aled) mohono. Mae "Trebor", wrth gwrs, yn anagram o "Robert" ac mae "Aled" yn awgrymu fod ganddo ryw gysylltiad â Dyffryn Aled, sef ardal Llansannan, o ble hanai'r Trebor Aled arall.

Yr unig ffeithiau sydd wedi dod i'r amlwg amdano yw ei fod yn englynwr pur doreithiog yn ysgrifennu yn y 1880au, a barnu oddi wrth bapurau newydd yr oes. Er enghraifft, enillodd ar yr englyn yng Nghylchwyl flynyddol Undeb Lenyddol Tal-y-sarn ym 1881[1] ac yng Nghylchwyl Lenyddol Methodistiaid Hyfrydle a Than'rallt ym 1887. Mae'r adroddiad am y gylchwyl olaf honno'n nodi ei fod yn aelod yng Hyfrydle.[2]

Os nad oedd yn fardd mawr, roedd yn medru dal ei dir gyda beirdd lleol eraill. Pan aed ati i bwyso a mesur doniau beirdd y dyffryn yn Y Genedl Gymreig ym 1888, fe’i gosodwyd yn ddegfed allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.[3] Roedd yn ddigon galluog yn rheolau'r gynghanedd i roi ateb sydyn i'w ffrind, y bardd Maldwynog, fel yr adroddodd Y Celt ym 1890:

 Ddarfod i Maldwynog gyfarfod â Trebor Aled brydnawn Mawrth diweddaf, ac i'r cyntaf anerch yr olaf drwy ddweyd: "Mai hi braidd yn hafaidd hin", i'r hyn atebodd Trebor "Mwy hafaidd na Mehefin".[4]

Roedd yn dal yn fyw ym 1896, pan ysgrifennodd lythyr at W.J. Roberts (Gwilym Cowlyd).[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymreig, 9.6.1881, t.7
  2. Y Genedl Gymreig, 1..6.1887, t.7
  3. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  4. Y Werin, 22.2.1890, t.4
  5. LlGC, Llysg.8534C