Robert Roberts (Trebor Aled)
Nid yw eto wedi dod yn amlwg pwy yn union oedd y Robert Roberts a arddelai'r enw barddol "Trebor Aled" yn Nyffryn Nantlle, ond i sicrwydd nad y Parch. Robert Jones (Trebor Aled) mohono. Mae "Trebor", wrth gwrs, yn anagram o "Robert" ac mai "Aled" yn awgrymu fod ganddo ryw gysylltiad â Dyffryn Aled, sef ardal Llansannan, o ble hanai'r Trebor Aled arall.
Yr unig ffeithiau sydd wedi dod i'r amlwg amdano yw ei fod yn englynwr pur doreithiog yn ysgrifennu yn y 1880au, a barnu oddi wrth bapurau newydd yr oes. Er enghraifft, enillodd ar yr englyn ngh Nghylchwyl flynyddol Undeb Lenyddol Tal-y-sarn ym 1881[1] ac yng Nghylchwyl Lenyddol Methodistiaid Hyfrydle a Than'rallt ym 1887. Mae'r adroddiad am y gylchwyl olaf honno'n nodi ei fod yn aelod yng Hyfrydle.[2]
Os nad oedd yn fardd mawr, roedd yn medru dal ei le efo beirdd lleol eraill. Pan aed ati i bwyso a mesur talentau beirdd y dyffryn yn Y Genedl Gymreig ym 1888, fe’i gosodwyd yn ddegfed allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.[3] Roedd yn ddigon alluog yn rheolau'r gynghanedd i roi ateb sydyn i'w ffrind, y bardd Maldwynog, fel yr adroddodd Y Celt ym 1890:
Ddarfod i Maldwynog gyfarfod â Trebor Aled brydnawn Mawrth diweddaf, ac i'r cyntaf anerch yr olaf drwy ddweyd: "Mai hi braidd yn hafaidd hin", i'r hyn atebodd Trebor "Mwy hafaidd na Mehefin".[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma