J. Machreth Rees

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:37, 17 Hydref 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd y Parch. Jonathan Machreth Rees (1855-1911), y gweinidog a'r bardd, yn frodor o Lanfachreth, Meirionnydd.[1] Bu’n enwog fel pregethwr grymus ac efengylaidd. Yr oedd hefyd yn fardd arobryn. Bu am gyfnod byr yn weinidog yr Annibynwyr ym Metws-y-coed lle priododd Mary Lynd Evans, Maesnewyddion, Betws-y-coed (a oedd yn saith mlynedd yn iau nag ef) ym 1881. Symudodd i gapel Pentrefoelas ym 1884. [2]

Ym 1887 fe dderbyniodd alwad gan gapeli Annibynnol Pen-y-groes a Llanllyfni i weinidogaethu yn Nyffryn Nantlle [3] Cartref y teulu oedd Bodawen, Rhes Britannia, Pen-y-groes.[4]

Yr oedd ei ddawn farddonol yn amlwg yn fuan wedi iddo gyrraedd y dyffryn, gan iddo gael ei gyfrif ymysg y goreuon o feirdd yr ardal mewn erthygl yn Y Genedl Gymreig ym 1888 [5] Yn ystod ei arhosiad yn y dyffryn, daeth yn weithredol gyda’r Rhyddfrydwyr, gan fod yn aelod o Ffederasiwn Rhyddfrydwyr Gogledd Cymru, [6] er iddo gefnogi’r Blaid Lafur fel gwir gynrychiolwyr gwerin Cymru wedi i’r blaid honno gychwyn.

Byr fu ei arhosiad yn y dyffryn, fodd bynnag, gan iddo dderbyn galwad gan eglwys ddylanwadol Stryd Radnor, Chelsea, Llundain ym 1895, gan ymadael â Phen-y-groes a dechrau ar ei weinidogaeth yn Llundain ar 1 Mehefin 1895. [7] Arhosodd yn y fan honno wedyn hyd ei farwolaeth ym 1911, gan fyw yn 15 Rosenau Road, ac wedyn 11 Meath Street, Battersea.[8]

Ceir disgrifiad o’i ddawn pregethu yn Y Dydd:

Y mae Machreth Rees yn bregethwr yng ngwir ystyr y gair yn efengylaidd o ran ei syniadau, yn credu yn nerth yr efengyl i godi dynoliaeth, yn ei phregethu fel y cyfryw gyda difrifwch brwdfrydig i eraill, a hynny mewn dull deniadol a soniarus. Nid yn unig y mae yn medru cyffwrdd y teimladau, ond y mae yn gallu apelio at y gydwybod gyda nerth, a goleuo y pen.[9]

Blodeuodd ei sgiliau barddonol i’r eithaf yn ystod ei flynyddoedd yn Llundain, gan iddo ddod yn ail am y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1903, er - yn ôl Alan Llwyd, y bardd a’r beirniad cyfoes - yr oedd hi’n "gystadleuaeth drychinebus", a’r awdl a enillodd, gan J.T. Job, yn “wael ryfeddol”. Enillodd Machreth y flwyddyn ganlynol yn y Rhyl am yr awdl ar destun “Geraint ac Emyr”. Yn ôl Alan Llwyd, roedd yr awdl yn “Awdl ramantaidd yn ôl ei phwnc, ei harddull a'i chynnwys, ond awdl anarbennig iawn, er i'r beirniaid ei chanmol”, a’r beirniaid hynny oedd John Morris-Jones, Elfed a Berw.[10]

Cyhoeddodd gasgliad o’i gerddi, “Geraint ac Enid” ym 1908. Cystadlodd sawl gwaith yn aflwyddiannus am y gadair mewn eisteddfodau eraill. Y darn mwyaf cyfarwydd o’i waith, fodd bynnag, yw’r emyn priodasol, “Mewn priodas gynt yn Nghana”, oedd yn Llyfr Emynau'r Methodistiaid a’r Wesleaid, er nad ydyw wedi ei chynnwys yn “Caneuon Ffydd”. Fo, ynghyd ag Owen Thomas (mab y gwrthrych), oedd awdur cofiant John Thomas, y gweinidog Annibynnol a chydawdur “Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru”.

Cafodd Machreth a'i wraig un ar ddego blant: Arthur Llewelyn (g.1884), Morfudd Lynd (g.1886), Emrys Aled (g.1887), Gwladus Olwen (g.1891), Aneurin Owain (g.1892), Nesta Glyn (g.1894), Alwen Menna (g.1899) ac Alun Meirion (g.1902), ynghyd â thri phlentyn a fu farw'n ifanc iawn.[11]

Cyfeiriadau

  1. Y Dydd, 2.5.1890, t.2
  2. Y Dydd, 18.4.1884
  3. Y Genedl Gymreig, 26.10.1887, t.7
  4. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1891
  5. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  6. North Wales Express", 31.1.1890
  7. The London Kelt , 6.4.1895, t.10
  8. Cyfrifiad plwyf Battersea, London, 1901.
  9. Y Dydd, 2.5.1890, t.2
  10. Gwefan y BBC, Canrif o Brifwyl, [1], cyrchwyd 17.10.2022
  11. Cyfrifiad plwyf Battersea, London, 1901 a 1911.