Afon Rhos

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:32, 5 Medi 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon Rhos yw'r afonig sydd yn llifo i lawr o gorsdir Cae Forgan a heibio Tyddyn Meinsier a Llain Ffynnon Y Groeslon ac wedyn heibio i fferm Y Grafog. Ar ôl mynd dan Wal Glynllifon mae'n llifo i mewn i Afon Llifon ym mhen draw'r Cwm Coed. Arferid cymryd dŵr o Afon Rhos ar hyd cafn a groesai'r ffordd fawr er mwyn troi olwyn ddŵr "Injan Grafog", sef Gwaith llechi Inigo Jones, a hynny tan 1952 pan oedd rhaid tynnu'r cafn i lawr er mwyn caniatáu i fysiau deulawr ddefnyddio'r ffordd.[1] Gelwir yr afon hon yn Afon Grafog gan rai.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. ‘’Hanes y Groeslon’’, (Caernarfon, 2000), t.31