Ynys yr Arch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:55, 5 Medi 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fferm yw Ynys yr Arch yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr, yn ardal Bwlchderwin. Cysylltir ei henw anghyffredin â chwedl am Feuno Sant (gweler Chwedl Ynys yr Arch). Codwyd ysgol o'r un enw ar dir y fferm yn niwedd y 19g. Bu'n gwasanaethu ardal eang o ffermydd a thyddynnod am rai blynyddoedd nes iddi gau oherwydd gostyngiad yn nifer y disgyblion (gweler Ysgol Ynys yr Arch). Mae'n dŷ erbyn hyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma